Jobs
My ads
My job alerts
Sign in
Find a job Career Tips Companies
Find

Gweithiwr allgymorth ieuenctid a myfyrwyr

Llanelli
Permanent
The Salvation Army
Posted: 21 September
Offer description

Oriau gwaith: 35 awr yr wythnos gyda nosweithiau a phenwythnosau rheolaidd

Dyddiad Cyfweliad: To be confirmed

Rydym yn awyddus i recriwtio Cristion ymroddedig ac angerddol i ddatblygu a chyflwyno Gweinidogaeth gydag Ieuenctid a Myfyrwyr - maes cenhadaeth allweddol i Fyddin yr Iachawdwriaeth.

Mae hwn yn gyfle cyffrous i weithio fel ymarferydd yn y cyd-destun lleol, gan ymgysylltu â phobl ifanc drwy fentrau i ddiwallu anghenion a sicrhau canlyniadau cadarnhaol,
yn ogystal â bod yn rhan o dîm ar draws y Cynefin Gorllewinol* oddi mewn i Adran Cymru, lle byddwch yn meithrin perthnasau cydweithredol gydag arweinwyr Rhanbarthol a lleol i annog a manteisio ar weinidogaeth bresennol Ieuenctid a Myfyrwyr a chyngori a dylanwadu ar gyfleoedd cenhadaeth newydd.

*Y Cynefin Gorllewinol yw Rhanbarth De a Chanolbarth Gorllewin Cymru sy'n cynnwys mynegiannau Byddin yr Iachawdwriaeth yn Aberystwyth, Rhydaman, Caerfyrddin, Gorseinon, Llanelli, Treforys, Castell-nedd, Abertawe a Dinbych-y-pysgod.

Mae Byddin yr Iachawdwriaeth yn mynd i'r afael ag anghenion corfforol, cymdeithasol ac ysbrydol, a bydd y rôl hon yn ceisio sicrhau cyfranogiad llawn gan Ieuenctid a Myfyrwyr ym mywyd Byddin yr Iachawdwriaeth gyda'r nod o adeiladu cymunedau ffydd.

Cyfrifoldebau Allweddol:

1. Gweithio gyda mynegiannau eraill Byddin yr Iachawdwriaeth yn y Cynefin Gorllewinol* i arwain datblygiad gwaith allgymorth ieuenctid a myfyrwyr lleol gyda'r nod o gynyddu'n sylweddol y ddarpariaeth o waith ieuenctid a myfyrwyr yn y gymuned.
2. Dylunio a chyflwyno ystod o weithgareddau allgymorth cymunedol, ymgysylltiad a disgyblaeth ieuenctid a myfyrwyr arloesol.
3. Gweithio'n gydweithredol gydag ysgolion, colegau, prifysgolion, gwasanaethau statudol ieuenctid a gwasanaethau cymunedol a gwirfoddol eraill, megis rhwydweithiau eciwmenaidd.
4. Cyfathrebu gyda a chydlynu partneru timau arweinyddiaeth ac adrannol corffluoedd ynglyn â datblygiad y prosiect gan gynnwys recriwtio a chefnogi pobl leol i ddod yn wirfoddolwyr ac arweinwyr gweithredol yn y prosiect.

Bydd gan yr ymgeisydd (ymgeiswyr) llwyddiannus y canlynol:-

5. Cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol mewn gwaith ieuenctid** neu'n gweithio tuag ato a/neu brofiad da o weithio gydag ieuenctid ym
meysydd disgyblaeth ac arweinyddiaeth. [Bydd ymgeiswyr â sgiliau trosglwyddadwy/perthnasol yn cael eu hystyried]
6. Profiad o fentora a chefnogi pobl ifanc ac arweinwyr ieuenctid
7. Profiad ymarferol o ddatblygu prosiectau allgymorth ieuenctid cymunedol a/neu fyfyrwyr, e.e. clybiau ieuenctid, rhaglenni mentora mewn ysgolion, caplaniaeth myfyrwyr a datblygu a harneisio cyfleoedd a pherthnasoedd partneriaeth allanol.
8. Ymwybyddiaeth o a'r gallu i weithio o fewn polisïau Diogelu ac Iechyd a Diogelwch

Mae gan y rôl hon ofyniad galwedigaethol sef bod yn rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn Gristion ymroddedig ac ymarferol a chydymdeimlo ag athrawiaethau a bod yn gefnogol i amcanion a nodau Byddin yr Iachawdwriaeth.

Er mwyn cwblhau eich cais, lawrlwythwch a darllenwch y proffil swydd ac unrhyw atodiadau eraill.

Yn y proffil swydd fe welwch y meini prawf sy'n ofynnol ar gyfer y rôl. Gwnewch yn siwr eich bod yn eu trafod yn eich datganiad ategol gan fod hyn yn sail i'n rhestr fer.

Mae penodiad yn amodol ar eirdaon boddhaol, prawf o'r hawl i weithio yn y DU a gwiriad boddhaol DBS Uwch gyda Rhestr Wahardd o'r Gweithlu Plant.

Rydym yn cadw'r hawl i gau'r hysbyseb hon yn gynharach os ydym o'r farn bod digon o geisiadau wedi eu derbyn.

Sylwch y bydd unrhyw weithwyr Byddin yr Iachawdwriaeth sydd dan rybudd o ddiswyddo ac sy'n gwneud cais am y swydd hon yn cael ystyriaeth flaenoriaethol.

Gan ein bod yn hyrwyddo cydraddoldeb yn y gweithle ac fel cyflogwr cynllun arweinwyr anabledd hyderus, rydym yn gwarantu cyfweld â phob ymgeisydd anabl sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol ar gyfer y swydd wag hon.

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save
See more jobs
Similar jobs
jobs Llanelli
jobs Carmarthenshire
jobs Wales
Home > Jobs > Gweithiwr Allgymorth Ieuenctid a Myfyrwyr

About Jobijoba

  • Career Advice
  • Company Reviews

Search for jobs

  • Jobs by Job Title
  • Jobs by Industry
  • Jobs by Company
  • Jobs by Location
  • Jobs by Keywords

Contact / Partnership

  • Contact
  • Publish your job offers on Jobijoba

Legal notice - Terms of Service - Privacy Policy - Manage my cookies - Accessibility: Not compliant

© 2025 Jobijoba - All Rights Reserved

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save