About us Our vision is to save every one. It may take us a long time to get there, but drowning is preventable, and we believe that even one drowning is one too many. We are all lifesavers. We are all fundraisers. This is our watch. We’re looking for the best of the best to be part of our RNLI crew. This is an exciting role that is people focused, making sure our engagement with volunteers and supporters feel part of the RNLI family, and are appreciated and supported in everything they do. You will be helping us brave the storm and empowering our volunteers in their engagement activities, from raising money, creating visitor experiences, developing our retail offering as well as looking for new audiences and opportunities. Some of the benefits Salary between £34,893 - £41,050 (dependent on experience) Flexible working 26 days’ annual leave plus Bank Holidays Competitive pension scheme Life assurance Optional health and dental cashplan Your role As a Community Manager in South Wales (Gower to Monmouthshire) and The Three Counties of England (Herefordshire, Gloucestershire and Worcestershire), you'll be at the heart of one of the most stunning coastal and inland areas in the UK, working within the incredible communities that make the RNLI so special. This is your chance to make a real impact by bringing people together and building strong connections that drive our lifesaving mission forward. You will be connected to the RNLI community in your area and the primary point of contact for all things engagement -fundraising, retail and visitor experience. You will be responsible for: Being strongly connected to the RNLI community in your area, acting as the primary point of contact for all things engagement – from fundraising and retail to visitor experience Empowering volunteer engagement crew to do what they do best, engaging the public, sharing our RNLI vision and growing vital support for our cause Supporting volunteer engagement crew to achieve key income, footfall and contact goals and seeking ways to engage new audiences Being part of an amazing regional team, working collaboratively to shape the future of RNLI engagement and provide an outstanding level of care to staff, volunteers and supporters Identifying and developing new income streams and partnership opportunities within your community About you You'll be a natural communicator, a true people person who thrives on building relationships, energising teams, and making things happen. Strategic and adaptable, you're just as comfortable leading from the front as you are working behind the scenes to get results. You'll be: a confident and inspiring presence who is able to engage and empower a wide range of volunteers, branches, groups, individuals and businesses strategic and flexible in your approach to achieving goals and tackle challenges able to work as part of a high performing team, but equally confident working independently, out and about in your area passionate about making a real difference for our volunteers and supporters and growing support for our cause To be considered as the Community Manager you will need: Proven significant experience of engaging supporters, volunteers and the general public Exceptional written and verbal communication skills People leadership experience, ideally in leading volunteers in a collaborative environment Experience of seeking out and implementing new opportunities for improved performance Experience of supporting and nurturing corporate or community partnerships Wales is a bilingual country, with both Welsh and English used routinely. Whilst the ability to speak and write in Welsh is not an essential requirement for the role, an understanding of the importance of Welsh language and culture is essential Please note this role requires a significant level of travel within the designated region of Wales, North West England, West Midlands and Isle of Man but will also require occasional travel to other RNLI assets including our support centre in Poole and occasional overnight stays. Rheolwr Cymuned - De Cymru a Thair Sir yn Lloegr £34,893 - £41,050 Buddion Rhagorol Cerbyd Gweithio gartref gan deithio'n rheolaidd ar draws y rhanbarth Amdanom ni Achub pawb yw ein gweledigaeth ni. Mae’n bosibl y bydd yn cymryd amser hir i ni gyrraedd yno, ond mae modd atal pobl rhag boddi. Hyd yn oed os bydd un person yn boddi, mae hyn yn dal yn ormod. Rydyn ni i gyd yn gyfrifol am achub bywydau. Rydyn ni i gyd yn gyfrifol am godi arian. Ni sy’n gyfrifol. Rydyn ni'n chwilio am y goreuon i fod yn rhan o griw'r RNLI. Mae hon yn rôl gyffrous sy'n canolbwyntio ar bobl, gan sicrhau bod ein bod yn gwneud i wirfoddolwyr a chefnogwyr deimlo eu bod yn aelodau o deulu'r RNLI drwy ein hymgysylltiad, a'u bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u cefnogi ym mhopeth maen nhw'n ei wneud. Byddwch yn ein helpu i rymuso ein gwirfoddolwyr yn eu gweithgareddau ymgysylltu, gan gynnwys codi arian, creu profiadau ymwelwyr, datblygu ein darpariaeth manwerthu a chwilio am gynulleidfaoedd a chyfleoedd newydd. I fod yn llwyddiannus, rhaid i chi fod yn byw yn un o’r ardaloedd canlynol: De Cymru (Gŵyr i Sir Fynwy) a Thair Sir yn Lloegr (Swydd Henffordd, Swydd Gaerloyw a Swydd Gaerwrangon). Dyma rai o'r manteision Gweithio’n hyblyg 26 diwrnod o wyliau blynyddol a Gwyliau Banc Cynllun pensiwn cystadleuol Yswiriant bywyd Cynllun arian dewisol iechyd a deintyddol Eich rôl chi Fel Rheolwr Cymunedol yn Ne Cymru (Gwyr i Sir Fynwy) a Thair Sir yn Lloegr (Swydd Henffordd, Swydd Gaerloyw a Swydd Gaerwrangon), byddwch wrth galon un o ardaloedd arfordirol a mewndirol mwyaf trawiadol y DU, gan weithio yn y cymunedau anhygoel sy'n gwneud yr RNLI mor arbennig. Dyma eich cyfle chi i gael effaith wirioneddol drwy ddod â phobl at ei gilydd a meithrin cysylltiadau cryf sy'n gyrru ein cenhadaeth o achub bywydau yn ei blaen. Byddwch yn cael eich cysylltu â chymuned yr RNLI yn eich ardal a byddwch yn brif bwynt cyswllt ar gyfer popeth sy'n ymwneud ag ymgysylltu - codi arian, manwerthu a phrofiad ymwelwyr. Dyma beth fyddwch yn gyfrifol amdano: Bod â chysylltiad cryf â chymuned yr RNLI yn eich ardal chi, gan weithredu fel y prif bwynt cyswllt ar gyfer popeth sy'n ymwneud ag ymgysylltu - gan gynnwys codi arian, manwerthu a phrofiad ymwelwyr Grymuso’r criw denu gwirfoddolwyr i gyflawni’r hyn maen nhw'n ei wneud orau, sef ymgysylltu â'r cyhoedd, rhannu gweledigaeth yr RNLI a datblygu cefnogaeth hanfodol i'n hachos Cefnogi’r criw denu gwirfoddolwyr i gyflawni nodau allweddol o ran incwm, sylw a chyswllt, a chwilio am ffyrdd o ymgysylltu â chynulleidfaoedd newydd Bod yn aelod o dîm rhanbarthol anhygoel, gan weithio ar y cyd i lunio dyfodol ymgysylltiad yr RNLI a darparu lefel ragorol o ofal i staff, gwirfoddolwyr a chefnogwyr Canfod a datblygu ffrydiau incwm newydd a chyfleoedd partneriaeth yn eich cymuned chi Amdanoch chi Byddwch yn gyfathrebwr naturiol, yn berson pobl sy'n ffynnu ar feithrin perthnasoedd, yn rhoi egni i dimau, ac yn gwneud i bethau ddigwydd. Byddwch yn strategol ac yn addasadwy, a byddwch yr un mor gyfforddus yn arwain o'r tu blaen ag ydych chi'n gweithio y tu ôl i'r llenni i gael canlyniadau. Dyma beth fydd angen i chi ei wneud: Bod yn bresenoldeb hyderus ac ysbrydoledig sy'n gallu ymgysylltu a grymuso amrywiaeth eang o wirfoddolwyr, canghennau, grwpiau, unigolion a busnesau Bod yn strategol a hyblyg yn eich dull o gyflawni nodau a mynd i'r afael â heriau Gallu gweithio fel aelod o dîm sy'n perfformio'n dda, ond yr un mor hyderus wrth weithio'n annibynnol allan yn eich ardal Bod yn frwd dros wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n gwirfoddolwyr a'n cefnogwyr, a chynyddu'r gefnogaeth i'n hachos Er mwyn cael eich ystyried i fod yn Rheolwr Cymunedol, bydd angen i chi feddu ar y canlynol: Profiad sylweddol amlwg o ymgysylltu â chefnogwyr, gwirfoddolwyr a'r cyhoedd Sgiliau cyfathrebu ardderchog ar lafar ac ar bapur Profiad o arwain pobl, yn ddelfrydol o arwain gwirfoddolwyr mewn amgylchedd cydweithredol Profiad o chwilio am gyfleoedd newydd i wella perfformiad a'u rhoi ar waith Profiad o gefnogi a meithrin partneriaethau corfforaethol neu gymunedol Mae Cymru'n wlad ddwyieithog, gyda'r Gymraeg a'r Saesneg yn cael eu defnyddio'n rheolaidd. Er nad yw'r gallu i siarad ac ysgrifennu yn Gymraeg yn ofyniad hanfodol ar gyfer y rôl, mae’n hanfodol meddu ar ddealltwriaeth o bwysigrwydd y Gymraeg a'i diwylliant Mae angen trwydded yrru ddilys ar gyfer y rôl hon Sylwch fod y rôl hon yn gofyn am lefel sylweddol o deithio yn rhanbarth dynodedig Cymru, Gogledd Orllewin Lloegr, Gorllewin Canolbarth Lloegr ac Ynys Manaw, ond bydd hefyd yn golygu teithio'n achlysurol i asedau RNLI eraill gan gynnwys ein canolfan gymorth yn Poole ac aros dros nos o bryd i'w gilydd. I gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais, ewch i’n tudalen swyddi. Dyddiad cau: 2 Tachwedd 2025. Cyfweliadau cyntaf: 10/11 Tachwedd 2025 (Teams). Ail gyfweliadau: 18 Tachwedd 2025 (wyneb yn wyneb). Mae'r RNLI wedi ymrwymo i ddiogelu; diogelu iechyd, llesiant a hawliau dynol unigolyn, gan ei alluogi i fyw heb niwed, camdriniaeth ac esgeulustod. Rydyn ni’n disgwyl i bob gweithiwr a gwirfoddolwr rannu'r ymrwymiad hwn ac arddel agwedd dim goddefgarwch. Bydd addasrwydd pob darpar weithiwr a gwirfoddolwr yn cael ei asesu yn ystod y broses recriwtio yn unol â'r ymrwymiad hwn. Bydd hyn yn cynnwys cynnal gwiriadau cofnodion troseddol perthnasol yn dibynnu ar gymhwysedd y rôl. (Cymru a Lloegr; gwiriad DBS, yr Alban; Disclosure Scotland PVG, Gogledd Iwerddon; Access NI, Gweriniaeth Iwerddon; Garda Vetting, Rhyngwladol; proses Tystysgrif Amddiffyn Plant Rhyngwladol). Mae ein staff a'n gwirfoddolwyr wedi bod yn achub bywydau ar y môr heb ragfarn ers 200 mlynedd. Rydyn ni’n parchu ac yn gwerthfawrogi cefndiroedd, sgiliau a safbwyntiau amrywiol yn ein timau, ac rydyn ni’n credu bod hyn yn hanfodol er mwyn ein helpu i ddarparu gwasanaeth achub bywyd o'r radd flaenaf. Rydyn ni’n sefydliad cynhwysol ac yn croesawu ceisiadau gan bawb. Yn ogystal â meddu ar y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y rôl, rydyn ni hefyd yn chwilio am ymgeiswyr sy'n rhannu ein hymrwymiad i wireddu ein gwerthoedd RNLI (gonest, dewr, anhunanol a dibynadwy), a'n helpu i weithio tuag at Ein Gweledigaeth: Achub Pawb. This post requires a valid driving licence. Safeguarding The RNLI is committed to safeguarding; protecting a person’s health, wellbeing, and human rights, enabling them to live free from harm, abuse, and neglect. We expect all employees and volunteers to share this commitment and have a zero-tolerance approach. The suitability of all prospective employees and volunteers will be assessed during the recruitment process in line with this commitment. This will include relevant criminal record checks being carried out dependent on the eligibility of the role. (England & Wales; DBS check, Scotland; Disclosure Scotland PVG, Northern Ireland; Access NI, Republic of Ireland; Garda Vetting; International, International Child Protection Certificate process). Diversity at the RNLI Our staff and volunteers have been saving lives at sea without prejudice for 200 years. We respect and value diversity of background, skills and perspectives within our teams, and consider it essential to help us deliver a world-class lifesaving service. We are an inclusive organisation and welcome applications from everyone. In addition to having the skills needed for the role, we also look for applicants who share our commitment to living our RNLI values (trustworthy, courageous, selfless, and dependable), and helping us work towards Our Vision: To save Every One.