Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe: IT Technician Support
Mae hwn yn gytundeb blwyddyn yn lle cyntaf, ond mae potensial cryf i ymestyn hwn i gytundeb parhaol. Byddai ymgeisydd addas yn un sydd â phrofiad blaenorol a'r potensial i gynyddu cyfrifoldebau yn yr ysgol. Mae'r ysgol wedi elwa o fuddsoddiad helaeth mewn adnoddau gyda datblygiadau cyffrous ar y gorwel sy\'n cynnwys adeiladau newydd yn y blynyddoedd nesaf.
Mae'r Adran TG yn adran brysur sy\'n cefnogi pob agwedd ar ddefnydd TGCh yr ysgol a thechnolegau cysylltiedig. Bydd cyfrifoldebau eraill yn cynnwys gosod a ffurfweddu offer a datrysiadau newydd ynghyd ag uwchraddio systemau presennol, cefnogi\'r platfform dysgu cenedlaethol (HWB), a darparu hyfforddiant sylfaenol yn ôl gofynion staff addysgu a chymorth.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn mwynhau cefnogaeth tîm staff agos ac effeithiol. Bydd ef / hi yn gweithio\'n agos gyda\'r Rheolwr TGCh, a Phennaeth Cymhwysedd TGCh / Digidol yn ogystal â thîm effeithiol o staff cymorth a gweinyddol yn yr ysgol. Mae\'r gallu i gyfathrebu a gweithio trwy gyfrwng Cymraeg yn hanfodol yn y swydd hon.
Os hoffech gael mwy o fanylion am y swydd hon neu am sgwrs anffurfiol, cysylltwch â\'r Pennaeth Cynorthwyol Mrs Nerys Vaughan.
Application form - school-based support staff ( Word doc, 134 KB )
Proses ymgeisio
Gallwch wneud cais am y swydd hon trwy ffurflen gais a llythyr yn amlinellu\'ch sgiliau a\'ch profiad sy\'n berthnasol i\'r swydd hon. Gallwch gynnwys eich profiadau perthnasol yn ogystal â\'ch gweledigaeth am y ffyrdd y gallech chi gyfrannu at fywyd yr ysgol fel cymuned ddysgu.
Dyddiad cau: 23/09/2025 3 pm
Dyddiad Cychstart: Cyn gynted â phosib ar ôl apwyntio.
Swydd Ddisgrifiad Cynorthwyydd Dysgu Digidol
Rheolwr Llinell: NV - Cyfrifoldeb am gymhwysedd digidol ar draws y cwricwlwm
Prif ddyletswyddau:
* Cefnogi\'r cydlynydd TGCh yn ei waith dyddiol i sicrhau bod systemau a cyfarpar cyfrifiadurol yr ysgol yn weithredol ar bob adeg.
* Cefnogi\'r arweinydd cymhwysedd digidol gyda datblygiadau cwricwlaidd a thechnegol.
* Trefniadau dyddiol HWB.
* Bod yn gyfrifol am \'wefannau cymdeithasol\' a diweddaru wefan yr ysgol
* Sicrhau bod y cyfrifiadur / sain yn iawn ar gyfer gwasanaethau
* Bod \'Ar-Alwad\' i gefnogi athrawon
* Sicrhau bod gwybodaeth ar y Plasma yn ddyddiol
* Cynorthwyo\'r Arweinwyr Digidol.
* Gallu golygu fideos, ffilmiau pontio, clipiau ayyb
* Gwirio a pharatoi\'r gliniaduron
* Adnewyddu \'aps\' ar yr i-pads
* Gweinyddu \'Dangos Fy Ngwaith Cartref\'
Cyfrifoldeb ar gyfer ffilmio gwersi.
Graddfa Cyflog: Gradd 5
Cytundeb: Blwyddyn yn unig
Dyddiad dechrau: Cyn gynted â phosib
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol
#J-18808-Ljbffr