Jobs
My ads
My job alerts
Sign in
Find a job Career Tips Companies
Find

Graddfa gyflog addysgu + tlr (£3,451)

Pontypridd
Educators Wales
€35,000 a year
Posted: 13 October
Offer description

Salary: Graddfa gyflog addysgu + TLR (£3,451)


Athro gyda TLR (Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol) - YGG Evan James

YSGOL GYNRADD GYMRAEG EVAN JAMES

Ffordd Y Rhondda,

Pontypridd.

CF37 1HF

Rhif Ffôn: 01443 486813


Athro Dros Dro gyda TLR - Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol

Dros Dro: Medi 2025 - Gorffennaf 2026 (2 ddiwrnod yr wythnos)

Oriau: 13 awr yr wythnos

Cyflog: Graddfa gyflog addysgu + TLR (£3,451)

Rydym yn chwilio am Gydlynydd ADY ymroddedig a phrofiadol i ymuno â'n tîm yn Ysgol Gynradd Gymraeg Evan James. Rydym yn ysgol groesawgar yng nghanol tref Pontypridd. Fel ein Cydlynydd ADY, byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth lunio a chyflwyno darpariaeth o ansawdd uchel i ddisgyblion ag ADY. Byddwch yn cydweithio â staff, teuluoedd, asiantaethau allanol, ac yn bwysicaf oll, y plant, i sicrhau bod pob dysgwr yn cael ei gefnogi i gyrraedd eu potensial llawn.


Prif Gyfrifoldebau

1. Arwain a rheoli darpariaeth ADY yr ysgol, gan gynnwys adnabod, asesu a monitro dysgwyr.
2. Cydlynu datblygiad a gweithrediad Cynlluniau Datblygu Unigol mewn partneriaeth â disgyblion a theuluoedd.
3. Darparu canllawiau, cefnogaeth a datblygiad proffesiynol i gydweithwyr ar strategaethau addysgu cynhwysol a darpariaeth wahaniaethol.
4. Cysylltu â gweithwyr proffesiynol allanol fel Seicolegwyr Addysg, Gwasanaethau Iechyd a thîm ADY yr Awdurdod Lleol.
5. Sicrhau cydymffurfiad â dyletswyddau statudol a hyrwyddo ethos ysgol gyfan o gynhwysiant a lles.


Rydym yn chwilio am rywun sydd:

* Â phrofiad sylweddol o weithio mewn lleoliad ysgol gynradd.
* Â dealltwriaeth gref o arfer addysgol cynhwysol.
* Â sgiliau cyfathrebu, arweinyddiaeth a threfnu rhagorol.
* Â ymrwymiad i hawliau a llais y plentyn ac i degwch mewn addysg.


Rydym yn cynnig:

* Amgylchedd ysgol feithringar a chynhwysol gydag ymdeimlad cryf o gymuned.
* Disgyblion brwdfrydig a gofalgar sy'n caru dysgu.
* Tîm o staff cefnogol a chydweithredol.
* Cyfleoedd dysgu proffesiynol parhaus.

Mae ffurflenni cais, a manylion pellach, gan gynnwys disgrifiad swydd a manyleb person ar gyfer y swydd, ar gael ar wefan Swyddi Ysgolion:

https://ce0576li.webitrent.com/ce0576li_webrecruitment/wrd/run/ETREC105GF.open?USESSION=C0A604064EDDAA8962C0EFC1412CCE2F&WVID=2482495vvA&LANG=CYM

Os ydych yn cael eich cyflogi gan Gyngor Rhondda Cynon Taf ar hyn o bryd, gwnewch gais am y swydd drwy eich cyfrif hunanwasanaeth cyflogai ac nid drwy'r ddolen uchod. Os oes gennych unrhyw broblemau wrth gael mynediad at eich cyfrif Hunanwasanaeth Gweithiwr, cysylltwch â thîm iTrent ar 01443 680760 neu itrentadmin@rctcbc.gov.uk.

Nodwch bod angen i chi gwblhau'r ffurflen gais ar-lein ar Wefan Recriwtio'r Ysgol er mwyn ymgeisio ar gyfer y swydd yma. Os dydych chi ddim yn llenwi'r ffurflen gais ar-lein byddwn ni'n ystyried eich bod chi ddim wedi gwneud cais am y swydd.

Mae croeso i chi gysylltu â’r Pennaeth Mrs Emma Smith am fwy wybodaeth ac i ymweld â’r ysgol (01443 486813)

Gellir cael ffurflen gais, a manylion pellach, oddi ar wefan eteach a dylid ei dychwelyd (wedi ei chwblhau) i: Uned Adnoddau Dynol, Tŷ Elai, Williamstown, Tonypandy. CF40 1NY. Rhif ffôn: (01443) 444549 Neu gellir ebostio ffurflenni i: school.recruitment@rctcbc.gov.uk

Dyddiad cau: Dydd Gwener, Mai 19eg, 2025 am 12:00 y.p.

Oes amddiffyn plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb i'r ysgol a'r cyngor. yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y gwasanaeth datgelu a gwahardd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.

Mae'r Cyngor a'r Ysgol yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd a mamolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.

#J-18808-Ljbffr

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save
See more jobs
Similar jobs
jobs Pontypridd
jobs Rhondda Cynon Taf
jobs Wales
Home > Jobs > Graddfa gyflog addysgu + TLR (£3,451)

About Jobijoba

  • Career Advice
  • Company Reviews

Search for jobs

  • Jobs by Job Title
  • Jobs by Industry
  • Jobs by Company
  • Jobs by Location
  • Jobs by Keywords

Contact / Partnership

  • Contact
  • Publish your job offers on Jobijoba

Legal notice - Terms of Service - Privacy Policy - Manage my cookies - Accessibility: Not compliant

© 2025 Jobijoba - All Rights Reserved

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save