Jobs
My ads
My job alerts
Sign in
Find a job Career Tips Companies
Find

Research assistant

Prifysgol Caerdydd
Research assistant
Posted: 4 January
Offer description

Cynorthwyydd Ymchwil
Yr Is-adran Haint ac Imiwnedd
Yr Ysgol Meddygaeth
Prifysgol Caerdydd

Mae'r swydd hon yn gyfle i weithio ar brosiect cyffrous a ariennir gan Ymchwil Canser y DU dan arweiniad yr Athro Andrew Godkin a'r Athro Awen Gallimore yn yr Is-adran Haint ac Imiwnedd ), sydd wedi'i lleoli ar safle Parc y Mynydd Bychan, mewn cydweithrediad ag ymchwilwyr ym Mhrifysgol Monash, Awstralia a Sefydliad CRUK yr Alban. Mae'r swydd wedi'i hariannu am 2 flynedd yn y lle cyntaf, gyda photensial am gyfleoedd pellach yn dibynnu ar gyllid yn y dyfodol. Mae'r prosiect yn ceisio deall ymateb celloedd-T CD4+ i ganser y colon a'r rhefr ac yn anelu at ddod o hyd i ffyrdd newydd o wella cydnabyddiaeth imiwnedd o antigenau sy'n gysylltiedig â thiwmorau er mwyn llywio dyluniadau brechlynnau canser yn y dyfodol.

Bydd deiliad y swydd yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi amcanion tîm y prosiect, gan fod angen gwyddonydd diwyd ac ymroddedig i yrru ein piblinell cemeg protein a bioleg strwythurol. Bydd y rôl yn cwmpasu echdyniad, cynhyrchiant a phuro proteinau imiwnedd sy'n cyflwyno antigenau tiwmor i gelloedd T, a elwir yn HLA dosbarth-II. Bydd y samplau protein a gynhyrchir yn cael eu defnyddio ar gyfer dadansoddiad biocemegol a strwythurol trwy grisialograffeg pelydr-x i lywio targedau newydd ar gyfer ein dull newydd o wella cydnabyddiaeth imiwnedd o ganser. Bydd deiliad y swydd yn gweithio'n agos gydag aelodau bioleg strwythurol y tîm ond hefyd y grŵp imiwnoleg canser ehangach ac imiwnolegwyr eraill yn yr Is-adran.

Dylid gwneud ymholiadau anffurfiol i'r Athro Andrew Godkin ) neu Dr Bruce MacLachlan ).

Swydd lawn-amser yw hon (35 awr yr wythnos), sydd ar gael o 1 Rhagfyr 2025 am gyfnod penodol tan 30 Tachwedd 2027.

Cyflog: £33,951 - £36,636 y flwyddyn (Gradd 5). Fel arfer, bydd pobl a benodir ym Mhrifysgol Caerdydd yn dechrau ar waelod y raddfa gyflog, heblaw o dan amgylchiadau eithriadol.

Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig pecyn buddion gwych, gan gynnwys 45 diwrnod o wyliau blynyddol (gan gynnwys gwyliau banc), cynllun pensiwn lleol, cynllun beicio i'r gwaith a chynlluniau teithio eraill, cynyddrannau blynyddol ar hyd y raddfa gyflog, a mwy. Mae hwn yn lle cyffrous a bywiog i weithio lle mae llawer o heriau gwahanol. Mae'r Brifysgol hefyd yn falch o gefnogi'r Cyflog Byw.

Dyddiad hysbysebu: Dydd Iau, 18 Rhagfyr 2025

Dyddiad cau: Dydd Gwener, 16 Ionawr 2026

Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Rydym o'r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydyn ni'n croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o'r gymuned, beth bynnag fo'u rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth draws, statws perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu neu oedran. Er mwyn helpu ein cyflogeion i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio'n hyblyg neu rannu'r swydd.

Mae modd cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg, ac ni chaiff y rhain eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Mae Prifysgol Caerdydd wedi llofnodi Datganiad ar Asesu Ymchwil (DORA) San Francisco. Mae hyn yn golygu, wrth wneud penderfyniadau cyflogi a dyrchafu, y byddwn yn gwerthuso ymgeiswyr ar sail safon eu hymchwil ac nid ar sail metrigau cyhoeddi na'r cyfnodolyn y cyhoeddwyd yr ymchwil ynddo. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: Asesu ymchwil yn gyfrifol – Ymchwil – Prifysgol Caerdydd
Prif swyddogaeth

Cyfrannu at waith ymchwil o fewn maes arbenigol, gan ymgymryd â gwaith cefnogi sy'n helpu i arwain at gyhoeddi ymchwil o safon uchel. Anelu at ragoriaeth mewn ymchwil ac ysbrydoli eraill i wneud yr un peth.

Prif Ddyletswyddau a Swyddogaethau

• Cynnal ymchwil ym maes bioleg celloedd T drwy gwaith protein: puro a bioleg strwythurol sy'n cynnwys cynllunio, paratoi, gosod, cynnal a chofnodi canlyniadau'r arbrofion.

• Cymryd rhan flaenllaw yn y grŵp ymchwil, gan gyfleu a chyflwyno ymchwil mewn cyfarfodydd, drwy gyhoeddiadau a llwybrau cydnabyddedig eraill fel y bo'n briodol, a sicrhau bod y wybodaeth yn cael ei chyfleu i bartneriaid mewnol ac allanol

• Cyfrannu at gyflwyniadau a chyhoeddiadau ymchwil a'u cefnogi yn ôl y gofyn

• Cyfrannu at geisiadau am gyllid ymchwil a'u cefnogi yn ôl y gofyn

• Dadansoddi a chyfleu syniadau, cysyniadau a data cymhleth drwy ddefnyddio dulliau a phecynnau priodol
Datrys problemau a chefnogi cydweithwyr wrth ddyfeisio gweithdrefnau sy'n ofynnol i sicrhau adrodd cywir ac amserol

• Cynhyrchu allbynnau ymchwil a chyfrannu at ddatblygu syniadau annibynnol a gwreiddiol fel y bo'n briodol
Cefnogi gweithgareddau ymchwil ar gyfer cyrsiau israddedig a rhaglenni ymchwil a rhoi arweiniad i aelodau eraill o staff o fewn y tîm ymchwil

• Cynnal a diweddaru'r maes gwybodaeth arbenigol, gan ymchwilio i lenyddiaeth berthnasol yn y maes a'i hadolygu'n feirniadol.

Arall

• Cyfranogi yng ngweinyddiaeth a gweithgareddau'r Ysgol er mwyn hyrwyddo'r Ysgol a'i gwaith ar draws y Brifysgol ac yn y byd y tu allan

• Datblygu'n bersonol ac yn broffesiynol mewn modd sy'n briodol ac a fydd yn gwella perfformiad.

• Sicrhau eich bod yn deall pwysigrwydd cyfrinachedd wrth ymgymryd â'r holl ddyletswyddau

• Cadw at bolisïau'r Brifysgol ynghylch Iechyd a Diogelwch a Chydraddoldeb ac Amrywiaeth

• Unrhyw ddyletswyddau eraill nad ydynt wedi eu cynnwys uchod, ond sy'n cyd-fynd â'r rôl.

PWYSIG: Tystiolaeth o'r Meini Prawf
Mae'n bolisi gan yr Ysgol Meddygaeth i ddefnyddio manyleb yr unigolyn fel adnodd allweddol wrth ddethol pobl ar gyfer y rhestr fer. Dylech chi ddangos eich bod yn ateb POB UN o'r meini prawf hanfodol, yn ogystal â'r rhai dymunol, lle bo'n berthnasol. Fel rhan o'r broses ymgeisio, bydd gofyn i chi gyflwyno'r dystiolaeth hon ar ffurf datganiad ategol.

Wrth gyflwyno'r ddogfen hon/ei hatodi i broffil eich cais, cofiwch roi cyfeirnod y swydd wag yn nheitl y ddogfen. Yn achos y swydd hon, y cyfeirnod yw 21042BR.

Os na fydd ymgeiswyr yn cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig eu bod yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol, ni fydd eu cais yn cael ei ystyried. Mae'r Ysgol Meddygaeth yn fodlon i chi gyflwyno CV i gyd-fynd â'r dystiolaeth ar gyfer meini prawf y swydd.

Meini Prawf Hanfodol

Cymwysterau ac Addysg
1. Gradd mewn disgyblaeth berthnasol megis Biocemeg, Gwyddorau Biofeddygol, Bioleg, Imiwnoleg, neu brofiad cyfatebol

Gwybodaeth, Sgiliau a Phrofiad
2. Gwybodaeth am ddulliau ac amrywiol dechnegau ymchwil gan gynnwys:
o Mynegiant protein mewn systemau procaryotig ac ewcaryotig
o Puro protein drwy hylif-cromatograffeg protein cyflym (FPLC)
o Dulliau dadansoddol megis SDS-PAGE a sbectroffotometreg

3. Gallu profedig i gofnodi, crynhoi a dadansoddi canlyniadau'n gywir
4. Gallu i ddangos y gallu a'r cymhelliant i sicrhau cyllid ymchwil

Cyfathrebu a Gweithio Mewn Tîm
5. Sgiliau cyfathrebu diamheuol, gan gynnwys cyflwyno i gynulleidfaoedd amrywiol
6. Sgiliau ardderchog o ran trefnu a gweithio mewn tîm

Arall
7. Gallu diamheuol i fod yn greadigol, yn arloesol a gweithio mewn tîm yn y gwaith.

Meini Prawf Dymunol

1. Gradd ôl-raddedig ar lefel Meistr (neu'n agos at gwblhau/cyflwyno) mewn maes perthnasol neu brofiad diwydiannol perthnasol

2. Gallu profedig i weithio heb oruchwyliaeth agos

3. Gwybodaeth/profiad blaenorol o weithio ym maes bioleg celloedd T, imiwnoleg canser neu fioleg strwythurol

4. Gallu i ddadansoddi setiau data mawr yn systematig drwy gymhwysedd mewn cyfrifiadura/bioleg gyfrifiadurol

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save
Similar job
Research assistant/associate in computational biology/immunology (fixed term)
Cambridge
Permanent
University of Cambridge
Research assistant
€39,625 a year
Similar job
Research assistant in visual search
Manchester
Permanent
The University of Manchester
Research assistant
Similar job
Postdoctoral research assistant in microbiology
Oxford
Permanent
Economicsnetwork
Research assistant
€43,601.5 a year
See more jobs
Similar jobs
jobs England
Home > Jobs > Science jobs > Research assistant jobs > Research assistant jobs in England > Research Assistant

About Jobijoba

  • Career Advice
  • Company Reviews

Search for jobs

  • Jobs by Job Title
  • Jobs by Industry
  • Jobs by Company
  • Jobs by Location
  • Jobs by Keywords

Contact / Partnership

  • Contact
  • Publish your job offers on Jobijoba

Legal notice - Terms of Service - Privacy Policy - Manage my cookies - Accessibility: Not compliant

© 2026 Jobijoba - All Rights Reserved

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save