Diolch am eich diddordeb yn y swydd Gweithiwr Aml-Grefft efo Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych. Y weledigaeth ar draws mudiad Gofal a Thrwsio cyfan yw bod holl bobl hŷn yn byw mewn cartrefi sy'n gwella ansawdd eu bywyd. Mae Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych yn sicrhau bod anghenion pobl hŷn neu bobl fregus yn aros yn ganolog i ddarpariaeth ein gwasanaethau a’i bod yn parhau i dderbyn gwasanaeth holistic "dal dwylo" ardderchog sydd ar gael am hyd oes y cleient. Rydym yn parhau i weithio mewn partneriaeth â sefydliadau statudol a gwirfoddol eraill â chyfeirio ar draws pob gwasanaeth. Llinell strap ein Asiantaeth yw: “ Gwell Cartrefi, Gwell Iechyd ” sy’n cael ei gefnogi drwy ein datganiad o fwriad:- “I alluogi pobl hŷn neu bregus i barhau i fyw yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain yn saff, cyfforddus, cynnes a diogel” Ac ein gweledigaeth yw i fod yn:- “ Ddarparwr blaenllaw o wasanaethau arloesol sy’n; gwella ansawdd bywyd pobl hŷn neu fregus ” Fe ddaeth Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych yn is-gwmni o Grŵp Cynefin ar y 1af o Orffennaf 2015: Cwmni Cyfyngedig trwy Warant ac Elusen Cofrestredig. Rydym yn cydymffurfio ag ymarfer da cydnabyddedig ac mae ganddynt bolisïau personél blaengar sy'n rhoi amodau gwaith teg a chyfeillgar i'r teulu. Os oes gennych yr ysfa a’r angerdd i fod yn allweddol wrth wneud gwahaniaeth i ddyfodol pobl, hon yw’r swydd i chi. http://www.grwpcynefin.org/en/eich-cymuned/denbighshire-care-repair/ Mae Grŵp Cynefin wedi bod yn darparu tai o ansawdd, sy’n ddiogel a fforddiadwy dros chwe sir gogledd Cymru a gogledd Powys i dros 8,000 o bobl ers 2014. Rydym yn gweithio’n galed i ddarparu tai a gwasanaethau rhagorol, i gyfrannu i ddatblygiad cymunedau cynaliadwy a gwarchod a hybu’r iaith Gymraeg gyda balchder. Rydyn ni am gynyddu iechyd a lles ein cymunedau i’r eithaf, creu cyfleoedd i newid bywydau a siapio lleoedd sy’n sicrhau dyfodol cynaliadwy. Os hoffech sgwrs pellach am y swydd, cysylltwch a Giovanni Braia, Rheolwr Gerddi Gwyrdd ar 0300 1110210. Cewch gyfle i gyfarfod y tîm a thrafod y swyddi mewn dwy noson agored ar 17/06/2025 a 2 4/06/2025 (manylion isod). Byddwn hefyd yn cynnig cymorth gyda CV ac i gyflwyno'ch cais yn ystod y nosweithiau hyn. Mwy o wybodaeth - E wch ar ein gwefan : www.grwpcynefin.org Y Swydd: Math o gytundeb: Parhaol Cyflog Spot: £33, 375 y flwyddyn Gwyliau: 30 diwrnod y flwyddyn yn ogystal â’r gwyliau banc statudol a’r cyfnod rhwng y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd Teithio: Defnyddio cerbyd, a ddarperir gan y cwmni, sy’n cyd-fynd â’r dibenion gwaith, i'w ddefnyddio yn amser Canllaw yn unig. Pensiwn: Mae Gofal a Thrwsio yn cynnig darpariaeth pensiwn trwy Ymddiriedolaeth Cynilion Cyflogaeth Cenedlaethol (NEST) Disgrifiad Swydd: DS Gweithiwr Aml Grefft 06.25.pdf JD Multi Skilled Operative 06.25.pdf Buddiannau: Pecyn Buddion.pdf Benefits Package.pdf Dogfennau a Dyddiadau Perthnasol Canllawiau cwblhau cais.pdf Cyfweliadau: w/c 07/07/2025 Nosweithiau Agored - cyfle i alw heibio a chael sgwrs hefo'r tîm am y swyddi: 17/06/2025 17:00 - 19:30 Swyddfa Gofal a Thrwsio Gwynedd a Môn,Uned 8/9, Llys y Fedwen,Parc Menai, Bangor, Gwynedd LL57 4BL 24/06/2025 17:00 - 19:30 Swyddfa Grŵp Cynefin, Tŷ John Glyn, 54 Vale Street, Dinbych LL16 3BW Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) Byddwn yn gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau gwiriad Sylfaenol gyda rhestrau gwahardd ar gyfer y swydd hon. Mae'r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg ar Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.