Derbynnydd / Cynorthwyydd Gweinyddol
Tymor Sefydlog am 12 Mis
20 awr yr wythnos
Mae WNO yn rhannu pŵer opera fyw a cherddoriaeth glasurol gyda chynulleidfaoedd a chymunedau ledled Cymru a Lloegr. Rydym yn lle creadigol ac ysbrydoledig i weithio ac yn cydnabod bod ein cydweithwyr yn chwarae rhan hanfodol wrth ddatblygu ein blaenoriaethau strategol i gyflawni ein huchelgeisiau.
Ar hyn o bryd rydym yn chwilio am Gynorthwyydd Gweinyddol achlysurol i ddarparu cefnogaeth weinyddol i’r Gweinyddwr CTS. Cynorthwyo gyda rheolaethau ariannol ac anariannol yn y busnes a chefnogi gyda’r gwaith o reoli gwasanaethau cyffredinol i’r safle (diogelwch, cyfleustodau, etc.) a chyflenwadau cyffredinol i’r busnes.
Beth fydd ei angen arnoch chi?
* Darparu cefnogaeth weinyddol lawn i’r Gweinyddwr CTS a gweddill y Tîm Rheoli.
* Ateb galwadau ffon a dosbarthu i'r lle cywir.
* Croesawu holl westeion a 3ydd partïon wrth iddynt gyrraedd y safle a’u cyfeirio’n briodol.
* Archebu eitemau stoc ar gyfer yr adran adeiladu a’r adran celf golygfeydd, yn ôl yr angen.
* Coladu a chofnodi taflenni amser wedi’u cwblhau i mewn i gronfa ddata CTS yn gywir bob dydd Llun a’i anfon at yr adran Gyflogres.
* Dosbarthu taflenni amser gwag i staff llawr gwaith bob dydd Mawrth.
* Bod yn bwynt cyswllt i’r CTS gofrestru problemau TG, ac yna eu trosglwyddo i’r adrannau cywir.
* Cysoni anfonebau yn erbyn incwm / gwariant.
* Cysoni ffurflenni hawlio treuliau a chyflwyno cysoniadau cardiau credyd.
* Cadw a chynnal cofnodion hyfforddi.
* Cysylltu â Gweinyddwr i sicrhau bod cofnodion yswiriant ac archwilio’n gyfredol.
* Ymddbeh yn unol â'n gwerthoedd.
* Cynnal cyfrinachedd a chadw at ganllawiau diogelu data a chanllawiau cysylltiedig lle bynnag sy'n briodol.
Beth fydd ei angen arnoch?
* Safon dda o addysg gyffredinol (TGAU Saesneg a Mathemateg Gradd C neu uwch).
* Profiad o Weinyddiaeth Swyddfa.
* Sgiliau trefnu, gweinyddu a rhifol rhagorol.
* Canolbwyntio ar ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid a gwasanaeth cleientiaid.
* Sgiliau rheoli amser rhagorol.
* Sylw i fanylion.
* Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu ar lafar ac ysgrifenedig rhagorol.
* Sgiliau TG rhagorol (Pecynnau Microsoft Office – Word, Excel a Databases).
* Gweithio’n galed ac yn egnïol; yn hyblyg ac yn gallu addasu.
* Yn gallu gweithio ar eich pen eich hun ac ar eich menter eich hun yn ogystal â fel aelod o dîm.
Beth allwn ni ei gynnig i chi?
Cyflog Cystadleuol
Gwyliau Blynyddol £25,350 y flwyddyn pro rata. Mae'r swydd hon yn rhan amser, 20 awr y'r wythnos.
Mae gan gydweithwyr hawl i 25 diwrnod o wyliau blynyddol (pro-rata am oriau rhan-amser) bob blwyddyn gwyliau llawn sy'n rhedeg o 1 Medi i 31 Awst. Mae gwyliau banc a gwyliau cyhoeddus yn ychwanegol at hyn. Ar ôl 5 mlynedd, bydd eich gwyliau yn cynyddu i 28 diwrnod.
Pensiwn Mae pob gweithiwr wedi'i gofrestru'n awtomatig i Gynllun Pensiwn Rhanddeiliaid WNO neu gynllun pensiwn cofrestredig arall y gellir ei sefydlu gan y Cwmni fel Cynllun Pensiwn Gweithle Cymwys tri mis ar ôl ymuno â'r Cwmni, yn amodol ar fodloni meini prawf cymhwysedd penodol.
Aelodaeth Campfa
Mae’r holl weithwyr yn gymwys i gael y Cerdyn Corfforaethol Gweithredol gan Gyngor Dinas Caerdydd, ar gael ar gyfradd isel o 25% ac mae’n cynnwys cyfleusterau hamdden amrywiol ledled Caerdydd.
Disgowntiau Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn cynnig gostyngiadau i breswylwyr mewn siopau a bwytai penodol o amgylch Bae Caerdydd ar gyflwyno card adnabod. Disgownt gyda Future Inns yng Nghaerdydd hefyd ar gael.
Disgownt Parcio Staff gyda Q Park
Gwasanaeth parcio am ddim ar safle gyda Q Park, Pierhead Street.
Rhaglen Cynorthwy-ydd Gweithwyr
Rydym yn darparu gwasanaeth cwnsela a chyngor rhad ac am ddim i’n holl weithwyr, gweithwyr llawrydd a chontractwyr.
Gwersi Cymraeg
Rydym yn cefnogi staff sydd am ddysgu neu wella eu sgiliau iaith Gymraeg, ac yn cynnig gwersi Cymraeg a gwella sylfaenol am ddim.
Os ydych chi'n chwilio am yr her nesaf, yna gwnewch gais heddiw. Rydym yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw geisiadau yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na phe baent yn Saesneg.
Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl, cysylltwch â heledd.davies@wno.org.uk
#J-18808-Ljbffr