Jobs
My ads
My job alerts
Sign in
Find a job Career Tips Companies
Find

Systems analyst

Prifysgol Caerdydd
Systems analyst
Posted: 2 February
Offer description

Dadansoddwr Systemau

Bydd deiliad y swydd yn aelod allweddol o'r Tîm Datrysiadau TG, gan gyfrannu at ddarparu gwasanaeth TG effeithlon o safon uchel sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr ar gyfer y staff a'r myfyrwyr sy'n gysylltiedig â gwasanaethau corfforaethol, gweithrediadau gweinyddol, ymchwil academaidd a gweithgareddau dysgu ac addysgu'r Brifysgol.
Mae'r swydd hon yn canolbwyntio ar nodi a diffinio'r gofynion ar gyfer systemau sy'n gwella profiad y myfyrwyr a'r staff. Byddwch yn gweithio ar y cyd â thîm amlddisgyblaethol sy'n cynllunio, yn dadansoddi ac yn datblygu profiad defnyddwyr. Byddwch yn helpu i gyflwyno datrysiadau TG arloesol a dibynadwy sy'n cyd-fynd ag amcanion strategol y Brifysgol.

Byddwch yn defnyddio methodolegau, offer a safonau dadansoddi sefydledig i nodi anghenion y busnes yn effeithiol a'u troi'n ofynion clir y gellir gweithredu arnynt ar gyfer systemau. Mae hyn yn cynnwys deall newidiadau dymunol, nodi problemau a chynnig datrysiadau sy'n cefnogi datblygu'n barhaus.

Byddwch hefyd yn cyfrannu at ddatblygu achosion busnes drwy gyfleu'r manteision posibl, gwerthuso datrysiadau posibl a nodi'r risgiau cysylltiedig. Bydd eich gwaith yn helpu i sicrhau bod systemau a phrosesau newydd neu well yn sicrhau gwerth mesuradwy ac yn cefnogi cenhadaeth y Brifysgol.

Swydd amser llawn a phenagored yw hon.

Cyflog: £41,064 hyd at £46,049 y flwyddyn (Gradd 6)

Dyddiad hysbysebu: Dydd Gwener, 16 Ionawr 2026

Dyddiad cau: Dydd Gwener, 13 Chwefror 2026

Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Rydym o'r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol sydd â'r uchelgais i greu prifysgol sy'n ceisio cyflawni ei rhwymedigaethau cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd i Gaerdydd, Cymru a'r byd. Er mwyn helpu ein cyflogeion i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywyd personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio'n hyblyg neu rannu'r swydd.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Bydd gofyn i ddeiliad y swydd wneud y canlynol:
* Bod yn gyfrifol am ddadansoddi anghenion defnyddwyr a'r sefydliad, gan gynllunio a gwella systemau a phrosesau digidol a sicrhau bod datrysiadau TG effeithiol yn cael eu cyflwyno sy'n cefnogi'r myfyrwyr, y staff academaidd a'r Gwasanaethau Proffesiynol
* Cysylltu ag uwch-gleientiaid a'r staff TG yn ôl yr angen, gan gynnal ymchwiliadau a mynd ati wedi hynny i bennu gofynion a pharatoi astudiaethau dichonoldeb – byddwch yn sicrhau bod barn pawb yn cael eu hystyried, eu gwirio a'u dilysu yn y gymuned o randdeiliaid ac yn sicrhau eich bod yn blaenoriaethu'n briodol i fodloni amcanion y busnes
* Helpu timau cydweithredol o gwsmeriaid i ymchwilio i swyddogaethau busnes, prosesau, llifoedd gwybodaeth a strwythurau data a mynd ati i'w dogfennu, a hynny gan ddefnyddio gwahanol dechnegau sy'n drefnus ac yn gyson
* Cynllunio, trefnu a hwyluso cyfarfodydd a gweithdai gyda chleientiaid/staff sy'n ddefnyddwyr yn ystod y camau ymchwilio a thrwy gydol y gwaith datblygu dilynol, gan gyflwyno materion a datrysiadau ar lafar ac yn ysgrifenedig a defnyddio creadigrwydd i greu datrysiadau amrywiol ar gyfer problemau cymhleth
* Paratoi a chyflwyno negeseuon ar lafar ac yn ysgrifenedig sy'n cyfleu gwybodaeth gysyniadol a thechnegol gymhleth i randdeiliaid (y gall eu cefndir a'u dealltwriaeth o'r mater amrywio), gan fonitro a mesur eu heffeithiolrwydd
* Diffinio dulliau o ymchwilio a dadansoddi, a hynny'n seiliedig ar arfer gorau a'r safonau a nodwyd
* Helpu i ddatblygu manyleb fanwl a modelu datrysiadau a argymhellir, gan ddefnyddio safonau, dulliau ac offer dadansoddi mewn ffordd ddeallus ac effeithiol, a chreu dogfennau o safon uchel yn gyson sy'n dechnegol ac yn ddisgrifiadol o ran eu natur
* Cynnal lefel o ymwybyddiaeth dechnegol sy'n ddigonol i ddadansoddi, modelu a dosbarthu dewisiadau amgen yn ôl dichonoldeb technegol a nodweddion anweithredol
* Defnyddio craffter busnes, sgiliau technegol a phrofiad yn y Brifysgol i asesu a chynghori ar ymarferoldeb dewisiadau amgen, gan sicrhau bod y cyfyngiadau technegol yn cyd-fynd â gofynion gweithredol
* Dilyn safonau dylunio priodol, gan gydweithio'n agos â'r Pensaer Datrysiadau Technegol ac uwch-reolwyr yn ôl yr angen ac ystyried pensaernïaeth menter a phensaernïaeth datrysiadau
* Meithrin a chynnal perthynas effeithiol â rhanddeiliaid
* Gweithio mewn timau matrics a chwarae rhan lawn yn y gwaith o weithredu datrysiadau ar ran y Brifysgol
* Sicrhau bod yr holl dasgau a gweithdrefnau'n cael eu cyflawni'n effeithiol ac yn effeithlon yn unol â lefelau gwasanaeth y cytunwyd arnynt neu ofynion penodol Cytundeb Lefel Gwasanaeth neu Gytundeb Lefel Weithredol
* Arwain neu gymryd rhan mewn prosiectau fel y bo'n briodol, gan reoli timau prosiect, cynllunio, trefnu a dirprwyo gwaith, monitro cynnydd ac ymyrryd yn ôl yr angen; Cyflawni dyletswyddau eraill o bryd i'w gilydd nad ydynt wedi'u nodi uchod ond sy'n cyd-fynd â gofynion y swydd
* Sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion cyfreithiol a rheoliadol o ran cydraddoldeb ac amrywiaeth, diogelu data, hawlfraint a thrwyddedu, diogelwch a chyllid, gan gynnwys polisïau, gweithdrefnau a chodau eraill y Brifysgol fel y bo'n briodol
* Cymryd gofal rhesymol am eich iechyd a'ch diogelwch eich hun, gan gynnwys iechyd a diogelwch pobl eraill y gall yr hyn y byddwch yn ei wneud neu'n methu â'i wneud yn y gwaith effeithio arnynt, yn unol â Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith etc 1974, cyfarwyddebau'r CE a pholisïau a gweithdrefnau'r Brifysgol ar iechyd, diogelwch a'r amgylchedd, yn ogystal â chydweithio â'r Brifysgol, sef y cyflogwr, i gyflawni unrhyw ddyletswyddau cyfreithiol sydd ganddi
Cyflawni dyletswyddau eraill o bryd i'w gilydd nad ydynt wedi'u nodi uchod ond sy'n cyd-fynd â gofynion y swydd – ymhlith y dyletswyddau hyn fydd rhai sy'n gysylltiedig â swydd uwch at ddibenion datblygu neu swydd iau at ddibenion bodloni gofynion gweithredol

Meini Prawf Hanfodol
1. Sgiliau rhyngbersonol a sgiliau cyfathrebu rhagorol, yn ysgrifenedig ac ar lafar
2. Sgiliau trefnu da, ynghyd â'r gallu i weithio'n hyblyg er mwyn blaenoriaethu'n llwyddiannus o dan bwysau
3. Dealltwriaeth a phrofiad amlwg o dechnegau dadansoddi, datrys a chyflawni at ddibenion rheoli problemau, gwallau a gwybodaeth
4. Dealltwriaeth a phrofiad amlwg o ddefnyddio technegau dadansoddi a chasglu gwybodaeth er mwyn dogfennu datrysiadau TG cymhleth mewn fframwaith rhesymegol a chlir y mae modd i eraill ei ddeall yn rhwydd
5. Sgiliau rheoli perthynas ardderchog a chadarn, ynghyd â phrofiad o reoli gofynion rhanddeiliaid ar bob lefel
6. Dealltwriaeth a phrofiad amlwg o bennu gofynion mewn ffordd gynhwysfawr ar gyfer rhaglenni newid busnes llwyddiannus
7. Profiad o ddadansoddi a dylunio systemau mewn sefydliad mawr a chymhleth, yn ddelfrydol yn y sector addysg uwch
8. Hanes profedig o weithio gyda rhanddeiliaid academaidd a phroffesiynol i gasglu, dadansoddi a dogfennu gofynion busnes
9. Profiad o gefnogi neu weithredu systemau menter a ddefnyddir yn aml mewn prifysgolion (e.e. systemau cofnodion myfyrwyr, cyllid ac adnoddau dynol, systemau amserlennu a systemau rheoli ymchwil)
10. Profiad o lunio dogfennau clir a chynhwysfawr, gan gynnwys manylebau swyddogaethol, mapiau prosesau a chanllawiau i ddefnyddwyr
Meini Prawf Dymunol
1. Addysg ar lefel gradd ym maes technoleg a/neu reoli busnes, neu unigolyn cymwys oherwydd profiad
2. Profiad uniongyrchol o weithio ym maes TG mewn prifysgol a/neu brofiad o weithio mewn sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus – yn ddelfrydol, bydd gennych brofiad o weithio yn y sector preifat
3. Cymhwyster rheoli ITIL, neu gymhwyster tebyg
4. Y gallu i siarad Cymraeg, neu barodrwydd i ddysgu'r iaith

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save
Similar job
Oracle hcm systems analyst
Warwick
Telent Technology Services Ltd
Systems analyst
Similar job
Quality systems analyst
Portsmouth
Kingdom People
Systems analyst
Similar job
Oracle hcm systems analyst
Woodloes Park
Telent Technology Services Ltd
Systems analyst
See more jobs
Similar jobs
jobs England
Home > Jobs > It jobs > Systems analyst jobs > Systems analyst jobs in England > Systems Analyst

About Jobijoba

  • Career Advice
  • Company Reviews

Search for jobs

  • Jobs by Job Title
  • Jobs by Industry
  • Jobs by Company
  • Jobs by Location
  • Jobs by Keywords

Contact / Partnership

  • Contact
  • Publish your job offers on Jobijoba

Legal notice - Terms of Service - Privacy Policy - Manage my cookies - Accessibility: Not compliant

© 2026 Jobijoba - All Rights Reserved

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save