Jobs
My ads
My job alerts
Sign in
Find a job Career Tips Companies
Find

Uwch swyddog llywodraethu / senior governance officer

Caernarfon
Grwp Cynefin
Governance officer
Posted: 12 August
Offer description

Diolch am eich diddordeb yn y swydd uchod.

Mae Grŵp Cynefin wedi bod yn darparu tai o ansawdd, sy'n ddiogel a fforddiadwy dros chwe sir gogledd Cymru a gogledd Powys i dros 8,000 o bobl ers 2014.

Rydym yn gweithio'n galed i ddarparu tai a gwasanaethau rhagorol, i gyfrannu i ddatblygiad cymunedau cynaliadwy a gwarchod a hybu'r iaith Gymraeg gyda balchder.

Rydyn ni am gynyddu iechyd a lles ein cymunedau i'r eithaf, creu cyfleoedd i newid bywydau a siapio lleoedd sy'n sicrhau dyfodol cynaliadwy.

Ydych chi'n angerddol am lywodraethu da, tryloywder, a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ym mywydau pobl? Ydych chi'n ffynnu mewn amgylchedd brysur sy'n cael ei yrru gan safonau llywodraethu uchel? Os felly, rydym ni eisiau clywed gennych!

Fel aelod o'r Tîm Llywodraethu byddwch yn chwarae rhan allweddol yn sicrhau trefniadau llywodraethu corfforaethol effeithiol ar draws y Grŵp.

Rydym yn chwilio am rywun i adlewyrchu ein gwerthoedd ac sydd â'r un ysfa a ni i ddarparu gwasanaeth rhagorol, lle mae ein tenantiaid yn greiddiol i'n gwaith.

Os oes gennych yr ysfa a'r angerdd i fod yn allweddol wrth wneud gwahaniaeth i ddyfodol pobl, hon yw'r swydd i chi.

Os hoffech sgwrs pellach am y swydd, cysylltwch ag Eleri Jones, Rheolwr Llywodraethu neu Helen Jones, Pennaeth Llywodraethu, ar 0300 111 2122.

Y Pecyn

Math o gytundeb: Parhaol

Cyflog: £33,517 - £37, 724

Lleoliad: Dinbych neu Penygroes a Gweithio o Gartref

Oriau Gweithio: 35 ayw

Gwyliau: 30 diwrnod y flwyddyn yn ogystal â'r gwyliau banc statudol a'r cyfnod rhwng y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd

Teithio: Defnyddiwr Car Achlysurol

Pensiwn: Mae Grŵp Cynefin yn cynnig darpariaeth pensiwn trwy Gynllun Social Housing Pension Scheme (SHPS)

Disgrifiadau Swyddi

DS Uwch Swyddog Llywodraethu.pdf

Senior Governance Officer JD.pdf

Buddiannau

Pecyn Buddion.pdf

Benefits Package.pdf

Datblygiad Personol:

Os oes gennych gymwysterau proffesiynol a'ch bod yn talu ffioedd proffesiynol blynyddol i'ch corff aelodaeth, byddwn yn talu un o'r rhain bob blwyddyn i'ch helpu i aros yn gysylltiedig â'r wybodaeth a'r addysg ddiweddaraf gan eich corff proffesiynol. Rydyn ni hefyd eisiau i'n holl gydweithwyr fwynhau buddion dysgu gydol oes, felly os ydych chi'n gweithio gyda ni byddwn ni'n buddsoddi ynoch chi fel hyn hefyd!

Dogfennau a Dyddiadau Perthnasol

Canllawiau cwblhau cais.pdf

Cyfweliadau: 04.09.25

Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)

Byddwn yn gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau gwiriad Sylfaenol ar gyfer y swydd hon.

#J-18808-Ljbffr

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save
See more jobs
Similar jobs
Administration jobs in Caernarfon
jobs Caernarfon
jobs Gwynedd
jobs Wales
Home > Jobs > Administration jobs > Governance officer jobs > Governance officer jobs in Caernarfon > Uwch Swyddog Llywodraethu / Senior Governance Officer

About Jobijoba

  • Career Advice
  • Company Reviews

Search for jobs

  • Jobs by Job Title
  • Jobs by Industry
  • Jobs by Company
  • Jobs by Location
  • Jobs by Keywords

Contact / Partnership

  • Contact
  • Publish your job offers on Jobijoba

Legal notice - Terms of Service - Privacy Policy - Manage my cookies - Accessibility: Not compliant

© 2025 Jobijoba - All Rights Reserved

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save