Role Responsibility: SWYDDOG DDALFA Y CARCHAR CEF a STI PARC, PEN-Y-BONT AR OGWR Parhaol, Llawn Amser (40 awr yr wythnos gyda shifftiau amrywiol Cyflog Cychwynnol £30,267.00 Ar ôl 1 mlynedd o wasanaeth £31,036.50 Ar ôl 3 blynedd o wasanaeth £32,319.00 Ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth £33,858.00 Buddion: Pensiwn y Cwmni, parcio am ddim ar y safle, ffreutur staff, gwisg cwmni am ddim, mynediad i gostyngiadau yn Siopa y stryd fawr a hyfforddiant a datblygiad helaeth. Gwnewch Gwahaniaeth Bob Dydd Rydym yn chwilio am Swyddogion Dalfeydd y Carchar (PCO) sy'n gyfathrebwyr rhagorol,cydnerth, a gwrandawyr da. Mae’r PCO yn hanfodol i weithrediad effeithiol ein carchardai. Rydym ni yn croesawu ceisiadau o bob cefndir cyn belled â bod gennych uniondeb, gwydnwch, a sgiliau cyfathrebu cryf. Nid oes angen unrhyw gymwysterau neu brofiad penodol. Bydd gan y bobl yn eich gofal amrywiaeth o wahanol anghenion a'ch rôl chi fydd hi i sicrhau bod yr unigolion hynny’n cael eu trin ag urddas a pharch a'u bod yn cael cymorth i ddod o hyd i ffordd newydd o fywyd tra’n cynnal amgylchedd diogel, sicr a strwythuredig. Ein Athroniaeth Nod ein carchardai yw adsefydlu troseddwyr a'u paratoi ar gyfer ailintegreiddio i gymdeithas. Rydym yn ymdrechu i normaleiddio amodau carchardai a chreu amgylchedd diogel i staff a carcharwyr. Am y rôl Byddwch yn sicrhau bod carcharorion yn cael eu trin ag urddas a pharch tra'n cynnal amgylchedd saff a diogel. Byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth ddarparu strwythur a threfn arferol, gan sicrhau y bydd carcharorion yn mynychu gwaith ac addysg, ac yn dilyn trefn y carchar. Bydd gennych nifer o gyfrifoldebau allweddol sy’n cynorthwyo diwygio Carcharorion, yn ogystal â chwarae rôl allweddol wrth ddarparu strwythur a threfn arferol i garcharorion, gan sicrhau eu bod yn cyrraedd y gwaith yn y bore ac yn cymryd rhan weithredol mewn addysg a chyfundrefn y carchardai ac yn ddiogel yn ei cell gyda’r nos.. Cwblhau gwaith papur ac adroddiadau.. Cynnal cyfyngiadau ar garcharorion& 39; rhyddid wrth amddiffyn eu hawliau. Sicrhau bod carcharorion yn cael eu trefn a'u breintiau. Lleihau risgiau i ddiogelwch. Rheoli digwyddiadau ac argyfyngau, a all gynnwys defnyddio Chamerâu Fideo a wisgir ar y corff. Hyrwyddo diwylliant adsefydlu a gwaith tîm. Herio ymddygiad gwael a hybu ymddygiad cadarnhaol. Annog carcharorion i gymryd rhan mewn gweithgaredd pwrpasol a canolbwyntio ar ei hymddygiad troseddol. .Ymateb i gamddefnyddio sylweddau, gan gynnwys rhoi Naloxone. Darparu cymorth cyntaf, megis CPR. Asesu risg a bregusrwydd carcharorion a'u cyfeirio at ofal cymdeithasol os oes angen. Cynorthwyo carcharorion ag anghenion niwroamrywiol. Asesu anghenion gofal iechyd mewn argyfwng. Cynnal sesiynau un-i-un wythnosol i garcharorion bregus. Cynnal gwiriadau lles. Asesu'r risg o hunan-niweidio neu hunanladdiad Cefnogi carcharorion a lles meddyliol The Ideal Candidate: Hyfforddiant a Datblygiad Rydym yn darparu hyfforddiant cynhwysfawr am 8 wythnos, gan gynnwys Rheoli & Ataliaeth, Cymorth Cyntaf,Sgiliau rhyngbersonol, ac Iechyd & Diogelwch. Mae gennym ni hefyd Lwybr Datblygu ar gyfer dyrchafiad gyrfa. Yn ogystal, rydym wedi lansio ein Llwybr Datblygu yn ddiweddar, sy'n darparu'n glir datblygiad gyrfa o Swyddog y Ddalfa Carchar hyd at rheolwr canol, pe bai hynny hefyd fod o ddiddordeb i chi. Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Rydym yn annog ceisiadau o bob cefndir ac rydym yn gyflogwr cwbl gynhwysol. Yr ydym yn hapus i drafod unrhyw addasiadau rhesymol. Diogelu Mae G4S CaRS wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant ac oedolion mewn perygl. Ein Tîm Mae ein tîm yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ac rydym yn annog ffyrdd newydd o weithio i wella diogelwch a gwell cefnogaeth i garcharorion. Fe welwch weithiwr diogel, cyfeillgar a phroffesiynol mewn amgylchedd gyda'r holl gefnogaeth a hyfforddiant sydd eu hangen arnoch i adeiladu gyrfa lwyddiannus. Gwybodaeth Ychwanegol. Rydym yn annog ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n siarad Cymraeg.. Mae'r swyddi gwag hyn yn amodol ar hanes 5 mlynedd y gellir ei wirio a fetio llym. .Rhaid i chi fod yn gymwys i weithio yn y DU.