Jobs
My ads
My job alerts
Sign in
Find a job Career Tips Companies
Find

Teaching assistant level 2 – penparc primary school

Cardigan
Cyngor Sir Ceredigion County Council
Teaching assistant
€10,000 - €40,000 a year
Posted: 21h ago
Offer description

Ydych chi’n berson brwdfrydig, egniol ac awyddus i wneud gwahaniaeth go iawn ym mywydau plant? Hoffech chi ymuno ag ysgol hapus, ofalgar a llwyddiannus lle mae lles a chynnydd pob disgybl yn ganolog i bopeth a wnawn?

Rydym yn chwilio am Gynorthwyydd Dosbarth Lefel 2 i ymuno â’n tîm ymroddedig yn Ysgol Gymunedol Penparc. Gyda 107 o ddisgyblion ar y gofrestr, rydym yn gymuned glos sy’n rhoi pwyslais ar ofal, cydweithio a chreu cyfleoedd dysgu cyffrous i bawb.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio yn y Cyfnod Sylfaen, ac o bosibl yn CA2 ar adegau, gan chwarae rhan allweddol wrth gefnogi dysgu a datblygiad disgyblion.

Disgwyliadau’r rôl:

* Cefnogi disgyblion, gan gynnwys rhai ag anghenion dysgu ychwanegol, mewn amgylchedd diogel a chynhwysol.
* Meithrin perthnasoedd cadarnhaol gyda disgyblion a’u hannog i gymryd rhan lawn mewn gweithgareddau dysgu.
* Hyrwyddo hunan-barch, annibyniaeth a chydweithio ymhlith disgyblion.
* Gweithio’n agos gydag athrawon i gynllunio a chyflwyno gweithgareddau dysgu ystyrlon.
* Bod yn rhan weithgar o dîm cefnogol ac ymroddedig.

Rydym yn chwilio am rywun sydd:

* Yn meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol yn y Gymraeg a’r Saesneg.
* Yn gallu adeiladu perthnasau cadarn dros ystod oedran a gallu.
* Yn deall y Cwricwlwm Cenedlaethol a’r Cyfnod Sylfaen.
* Yn gweithio’n hyblyg ac yn gadarnhaol fel rhan o dîm.
* Yn meddu ar gymhwyster CGC2 neu brofiad cyfatebol.

Byddai profiad o weithio gyda disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yn fantais, ond nid yn hanfodol.

Os ydych chi’n angerddol am gefnogi plant i gyrraedd eu potensial llawn ac yn awyddus i ymuno ag ysgol lle mae pawb yn cael eu gwerthfawrogi, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymoi ddiogelu ac amddiffynplant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiadhwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelua Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

#J-18808-Ljbffr

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save
Similar job
Teaching assistant
Cardigan
Temporary
Vision for Education - Swansea
Teaching assistant
Similar job
Teaching assistant ceredigion
Cardigan
Equal Education Partners
Teaching assistant
€40,000 - €60,000 a year
Similar job
Teaching assistant
Cardigan
Vision For Education
Teaching assistant
€40,000 - €60,000 a year
See more jobs
Similar jobs
Education jobs in Cardigan
jobs Cardigan
jobs Ceredigion
jobs Wales
Home > Jobs > Education jobs > Teaching assistant jobs > Teaching assistant jobs in Cardigan > Teaching Assistant Level 2 – Penparc Primary School

About Jobijoba

  • Career Advice
  • Company Reviews

Search for jobs

  • Jobs by Job Title
  • Jobs by Industry
  • Jobs by Company
  • Jobs by Location
  • Jobs by Keywords

Contact / Partnership

  • Contact
  • Publish your job offers on Jobijoba

Legal notice - Terms of Service - Privacy Policy - Manage my cookies - Accessibility: Not compliant

© 2025 Jobijoba - All Rights Reserved

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save