Jobs
My ads
My job alerts
Sign in
Find a job Career Tips Companies
Find

Headteacher – penparc primary school

Cardigan
Permanent
Ceredigion County Council
Posted: 22 October
Offer description

About the role

The following is an advert where the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential.

Dyddiad dechrau: 13eg o Ebrill,

Yn sgil penodiad ein Pennaeth presennol i ysgol uwchradd o fewn yr ardal, mae Llywodraethwyr Ysgol Gymunedol Penparc yn awyddus i benodi olynydd ymroddedig ac ysbrydoledig ar gyfer yr ysgol gynradd gymunedol boblogaidd hon. Lleolir Ysgol Gymunedol Penparc ar gyrion tref Aberteifi yng Ngheredigion. Cymraeg yw prif gyfrwng gwaith a bywyd yr ysgol.

Mae’r ysgol yn darparu amgylchedd gofalgar, cynhwysol, llawn parch o’r radd flaenaf. Dymuna’r Llywodraethwyr benodi Pennaeth newydd i arwain yr ysgol yn y cyfnod nesaf o’i datblygiad.

Mae rhyw o ddisgyblion yn yr ysgol ac mae tîm effeithiol o athrawon a staff cefnogi yn cynorthwyo pob disgybl i ddysgu a datblygu i’w llawn botensial. Mae’r Llywodraethwyr am benodi Pennaeth a all adeiladu ar y cryfderau presennol a bod yn agored i syniadau newydd a sicrhau bod yr ysgol yn paratoi ei disgyblion ar gyfer byd sy’n newid o’u cwmpas.

Rydym yn awyddus i sicrhau bod yr ysgol yn parhau i ffynnu ac yn manteisio ar gyfleoedd pellach i ragori yn y dyfodol. Rydym am benodi unigolyn profiadol sy’n meddu ar nodweddion arweinyddiaeth a rheolaeth ragorol ac a fydd yn:

1. hyrwyddo safonau cyflawniad uchel i bawb wrth hyrwyddo cymuned gefnogol a chynhwysol
2. annog ac yn cefnogi disgyblion i fod yn ddysgwyr annibynnol ac uchelgeisiol
3. ysbrydoli ac yn hybu datblygiad staff o ran addysgu a dysgu arloesol
4. annog ymrwymiad rhieni a’r gymuned o fewn yr ysgol

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus y nodweddion canlynol:

5. gweledigaeth glir o ran datblygiad yr ysgol hon sydd wedi ei hen sefydlu ac sy’n rhoi lle canolog i’r Gymraeg yn y gymuned
6. y gallu i annog disgyblion i gofleidio’r diwylliant a’r iaith Gymraeg yn llawn ac i annog rhieni i gefnogi’r Gymraeg adref
7. dealltwriaeth o arferion dysgu effeithiol ac ymrwymiad cryf i barhau i’w datblygu drwy’r ysgol yn y dyfodol
8. medrau cadarn o ran cyfathrebu, ymwneud ag eraill, rheoli a threfnu
9. dealltwriaeth o bwysigrwydd datblygiad unigol pob disgybl er mwyn iddynt gyflawni ei lawn botensial
10. gwybodaeth gadarn am ddatblygiadau ac arferion addysgol cyfredol a gwir ddiddordeb yn y maes
11. ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol parhaus ac i adeiladu tîm er mwyn sicrhau’r cyfleoedd gorau posib i bob disgybl
12. ymrwymiad cryf i gyfoethogi’r cysylltiadau gyda’r Llywodraethwyr, y gymuned leol, ysgolion eraill a’r Urdd.

Disgrifiad Swydd

Manyleb Person

Prospectws Ysgol Penparc

Mae croeso i ymgeiswyr ymweld â’r ysgol, os ydynt yn dymuno, cyn cyflwyno cais. Am fanylion pellach, cysylltwch ag Ymgynghorydd Cefnogi’r ysgol, Mr Dafydd Iolo Davies: .

Dyddiad Cau: Dydd Sul yr 16eg o Dachwedd, (hanner nos)

Cyfweliadau: Dydd Gwener 12fed o Ragfyr (gofynnir i ymgeiswyr sicrhau eu bod ar gael ar y diwrnod hwn) a gynhelir yn Ysgol Gymunedol Penparc.

Mae’r hysbyseb hon ar gyfer swydd Pennaeth yn Ysgol Penparc, yn llawn amser lle mae’r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol. Mae meddu ar y cymhwyster CPCP yn hanfodol.

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

What we offer

Work-life balance

Lifestyle savings scheme

Generous employer pension scheme

Cycle to work scheme

Learning and development

Where you'll work

Schools and Culture

We offer appropriate challenge and support to our schools, to help them deliver first class education to all pupils, across the age and ability range. Our primary functions are as follows:

13. School Improvement: Leadership; Support and Challenge, Teaching and Learning; Digital Literacy; Literacy and Numeracy; Welsh in Education
14. Additional Learning Needs: Provision for pupils with Additional Learning Needs, Inclusion; Attendance; Educational Psychology
15. Pupil Wellbeing:Counselling; Welfare; Anti-Bullying, Pupil Voice
16. Education Governance: Data ; Governor Support, Policy support
17. School Admissions
18. Culture: Music Service; Cered; Felinfach Theatre; Museum
19. Infrastructure and Resources: Planning School Places; Modernisation and Twenty First Century Schools Programme; Buildings; Grants
20. Catering: Day Centres; Primary Schools; Residential homes.
21. Childcare Unit: Childcare Sufficiency Assessment; Childcare & Play Grant; Childcare Offer; Out of School (After School Clubs and Holiday Playschemes); Day Nursery, Cylch/Playgroup & Childminder business support and staff training
Cardigan Cardigan is the historic gateway into Ceredigion from the south west.

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save
See more jobs
Similar jobs
jobs Cardigan
jobs Ceredigion
jobs Wales
Home > Jobs > Headteacher – Penparc Primary School

About Jobijoba

  • Career Advice
  • Company Reviews

Search for jobs

  • Jobs by Job Title
  • Jobs by Industry
  • Jobs by Company
  • Jobs by Location
  • Jobs by Keywords

Contact / Partnership

  • Contact
  • Publish your job offers on Jobijoba

Legal notice - Terms of Service - Privacy Policy - Manage my cookies - Accessibility: Not compliant

© 2025 Jobijoba - All Rights Reserved

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save