Closing Date: Tuesday 2nd December 2025. Interview Date: W/C 15th December 2025. About the Role The main purpose of this role will be to work with the Welsh Government and key stakeholders across both Health and Social care across Wales, to help drive the implementation of the Code of Practice for Autism that sits beneath the Social Services and Well Being Wales Act and the NHS Act. Hosted by the Welsh Local Government Association in conjunction with Public Health Wales, this post will be part of a unique integrated support and development team. The role will work with the Regional Partnership Boards and key stakeholders in the development of infrastructure to deliver their local autism delivery plans. The post holder will be a key point of contact for a wide range of stakeholders at a national level and will coordinate information between the regions and the National Autism Team and will drive the implementation of the Code of Practice and the National ND agenda and provide information, advice, and guidance on the statutory requirements of the Code on Practice. This includes workforce development, and they will be expected to work closely with workforce leads and teams both in the Local Authority and Health boards across Wales. This post will support and inform the Welsh Government with any evaluation or updates to the Code of Practice. The post holder will also promote and share ND Wales resources across Wales and engage with and support local Autism/ND leads and local stakeholder groups. The post holder will have a key role in ensuring that the voice of neurodivergent people is embedded within this work. The role will manage a range of relationships and communications to underpin the implementation of the Code and promote the integration agenda. The role will involve liaison with senior level professionals across Health Boards and Local Authorities, voluntary organisations, neurodivergent people and parents / carers and will have a role in communication and information sharing across these groups. The role will contribute to team management by managing the workload of the Administrative Officer. Apply Now! For an initial discussion about the role and the organisation, please contact Sian Lewis, Head of Wales Neurodivergence Service at sian.lewis@wlga.gov.uk The Association welcomes applications in English or Welsh The successful candidate will be required to provide evidence of identity and eligibility to work in the UK. The WLGA does not participate in the UK Visa Sponsorship Scheme therefore, candidates will have to provide evidence of their Right to Work in the UK if offered a role with us. The Association is an Equal Opportunities Employer. Dyddiad Cau: Dydd Mawrth 2 Rhagfyr 2025. Dyddiad y Cyfweliad: wythnos dechrau 15 Rhagfyr 2025. Ynglŷn â’r Swydd Prif bwrpas y rôl hon fydd gweithio gyda Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allweddol ar draws Iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru, i helpu i ysgogi'r broses o weithredu'r Cod Ymarfer ar gyfer Awtistiaeth sy'n eistedd o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Cymru a Deddf y GIG. Wedi'i chynnal gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar y cyd ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, bydd y swydd hon yn rhan o dîm cymorth a datblygu integredig unigryw. Bydd y rôl yn gweithio gyda'r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol a rhanddeiliaid allweddol wrth ddatblygu seilwaith i gyflawni eu cynlluniau cyflawni awtistiaeth lleol. Bydd deiliad y swydd yn bwynt cyswllt allweddol i ystod eang o randdeiliaid ar lefel genedlaethol a bydd yn cydlynu gwybodaeth rhwng y rhanbarthau a'r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol a bydd yn gyrru'r gwaith o weithredu'r Cod Ymarfer a'r agenda ND Cenedlaethol ac yn darparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad ar ofynion statudol y Cod Ymarfer. Mae hyn yn cynnwys datblygu'r gweithlu, a bydd disgwyl iddynt weithio'n agos gydag arweinwyr a thimau'r gweithlu yn yr Awdurdod Lleol a byrddau Iechyd ledled Cymru. Bydd y swydd hon yn cefnogi ac yn hysbysu Llywodraeth Cymru gydag unrhyw werthusiad neu ddiweddariadau i'r Cod Ymarfer. Bydd deiliad y swydd hefyd yn hyrwyddo ac yn rhannu adnoddau ND Cymru ledled Cymru ac yn ymgysylltu ac yn cefnogi arweinwyr Awtistiaeth/ND lleol a grwpiau rhanddeiliaid lleol. Bydd gan ddeiliad y swydd rôl allweddol wrth sicrhau bod llais pobl niwroamrywiol wedi'i ymgorffori yn y gwaith hwn. Bydd y rôl yn rheoli ystod o berthnasoedd a chyfathrebu i gefnogi gweithredu'r Cod a hyrwyddo'r agenda integreiddio. Bydd y rôl yn cynnwys cysylltu â gweithwyr proffesiynol lefel uwch ar draws Byrddau Iechyd ac Awdurdodau Lleol, mudiadau gwirfoddol, pobl niwroamrywiol a rhieni/gofalwyr a bydd ganddo rôl mewn cyfathrebu a rhannu gwybodaeth ar draws y grwpiau hyn. Bydd y rôl yn cyfrannu at reoli tîm trwy reoli llwyth gwaith y Swyddog Gweinyddol. Gwnewch gais Rŵan! I gael sgwrs gychwynnol ynglŷn â’r swydd a’r sefydliad, cysylltwch â Sian Lewis, Pennaeth Gwasanaeth Niwrowahaniaeth Cymru ar sian.lewis@wlga.gov.uk Fe fydd CLILC yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg neu Saesneg Bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu tystiolaeth o hunaniaeth a chymhwysedd i weithio yn y DU. Nid yw Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn cymryd rhan yng Nghynllun Nawdd Fisa'r DU felly, bydd rhaid i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth o'u hawl i weithio yn y DU pe bai'n cael cynnig rôl gyda ni. Mae WLGA yn cyflogi ei staff yn ôl egwyddorion cyfleoedd cyfartal.