Jobs
My ads
My job alerts
Sign in
Find a job Career Tips Companies
Find

Cynghorydd rhybuddio a hysbysu

Haverfordwest
Cyfoeth Naturiol Cymru / Natural Resources Wales
Posted: 21 June
Offer description

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Tîm Rhybuddio a Hysbysu / Gweithrediadau

Cyflog cychwynnol: £36,246 yn codi i £39,942 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).

Math o gytundeb: Parhaol

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)

Rhif swydd: 200874

Y rôl

Bydd deiliad y swydd yn rheoli ac yn cyflawni'r gwasanaeth rhybuddio llifogydd lleol ochr yn ochr â pharatoadau ar gyfer pob digwyddiad o fewn y Gyfarwyddiaeth Weithredu, ac fel aelod o'r Tîm Rhybuddio a Hysbysu bydd yn rheoli ac yn cydlynu ein hymateb i lifogydd afonydd ac arfordirol.
Cyfrannu at y Tîm Rheoli Digwyddiadau Llifogydd drwy gymryd rhan yn y gwaith o nodi a datblygu cynlluniau gwaith er mwyn lleihau a rheoli'r risg o lifogydd.
Cymryd rhan mewn gwaith ar draws timau a cheisio dylanwadu ar gwsmeriaid a sefydlu partneriaethau lleol i gyflawni amcan cyffredin CNC.
Cyfrannu at ddatblygu a chyflwyno'r gwasanaeth rhybuddio am lifogydd fel bod y gyfarwyddiaeth, ei phartneriaid a'r cyhoedd yn barod i ymateb i ddigwyddiadau llifogydd.
Rhoi mewnbwn i gynlluniau a gweithdrefnau digwyddiadau gyda phartneriaid allanol a phrofi trwy ymarfer er mwyn sicrhau bod y gyfarwyddiaeth yn barod ar gyfer digwyddiadau llifogydd.
Cydlynu a gweinyddu gweithdrefnau mewnol i sicrhau bod y gyfarwyddiaeth yn gallu ymateb yn effeithiol yn ystod digwyddiad llifogydd.
Cefnogi’r gwaith o gyflawni cyfrifoldebau o dan y Ddeddf Argyfyngau Sifil gan weithio gyda phartneriaid fel rhan o'r Fforwm Cydnerthedd Lleol.

Y Tîm Rhybuddio a Hysbysu

Bydd deiliad y swydd yn gweithio fel rhan o'r tîm i ddarparu ein gwasanaeth rhybuddio llifogydd. Bydd yn gyfrifol am wella, cynnal a darparu gwasanaeth newydd i gymunedau a nodwyd sydd mewn perygl ledled De Cymru. Bydd yn gyfrifol am baratoi, cynllunio a rheoli ein hymateb i ddigwyddiadau llifogydd drwy sicrhau bod gweithdrefnau lleol yn cael eu cadw'n gyfredol. Bydd hefyd yn gallu paratoi a chyfrannu at ein cynllun hyfforddi ac ymarfer rheoli digwyddiadau i alluogi ein swyddogion dyletswydd a'n partneriaid allanol i fod yn fwy parod ar gyfer llifogydd fel rhan o'u hymateb yn Ne-orllewin Cymru. Nid oes unrhyw gyfrifoldebau rheoli llinell yn gysylltiedig â’r rôl hon.

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch chi wedi’ch contractio i swyddfa Cyfoeth Naturiol Cymru yn Ne Cymru a chytunir ar batrwm gweithio hybrid addas wrth eich penodi. Bydd unrhyw hyfforddiant neu gyfarfodydd wyneb yn wyneb rheolaidd yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â / ag Regina Simmons at Regina.Simmons@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4 i 8 wythnos i'r dyddiad cau.

Amdanom ni

Rydym yn byw, yn gweithio ac yn hamddena yn ein hamgylchedd; mae'n rhan o'n diwylliant, ac yn allweddol i'n ffyniant economaidd a'n hymdeimlad o gymuned.
Rôl Cyfoeth Naturiol Cymru yw sicrhau bod amgylchedd ac adnoddau naturiol Cymru yn cael eu cynnal a’u cadw’n gynaliadwy, eu cyfoethogi’n gynaliadwy a’u defnyddio’n gynaliadwy, heddiw ac yn y dyfodol.
Fel y Corff mwyaf a Noddir gan y Llywodraeth yng Nghymru, rydym yn cyflogi tua 1900 o staff ac mae gennym gyllideb flynyddol o tua £180 miliwn. Rydym yn defnyddio'r arian hwn mewn amrywiaeth o ffyrdd er budd pobl, amgylchedd ac economi Cymru. Ein gweledigaeth yw y byddwn yn 'falch o fod yn arwain y ffordd at ddyfodol gwell i Gymru drwy reoli'r amgylchedd ac adnoddau naturiol yn gynaliadwy'.
Bydd y rôl yn cynnwys gweithio fel rhan o'r tîm Rhybuddio a Hysbysu wrth ddarparu ein gwasanaeth rhybuddion llifogydd. Bydd yn gyfrifol am wella, cynnal a darparu gwasanaeth newydd i gymunedau a nodwyd sydd mewn perygl ledled De Cymru. Bydd yn gyfrifol am baratoi, cynllunio a rheoli ein hymateb i ddigwyddiadau llifogydd drwy sicrhau bod gweithdrefnau lleol yn cael eu cadw'n gyfredol. Bydd hefyd yn gallu paratoi a chyfrannu at ein cynllun hyfforddi ac ymarfer rheoli digwyddiadau i alluogi ein swyddogion dyletswydd a'n partneriaid allanol i fod yn fwy parod ar gyfer llifogydd fel rhan o'u hymateb. Bydd gofyn i ddeiliad y swydd ymgymryd â rôl ar y rota dyletswydd rhybuddion llifogydd ac efallai y bydd gofyn iddo weithio y tu allan i oriau gwaith yn ystod digwyddiadau llifogydd.

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

1. Cyfrannu at y Tîm Rheoli Digwyddiadau Llifogydd drwy gymryd rhan yn y gwaith o nodi a datblygu cynlluniau busnes/gwaith er mwyn lleihau a rheoli'r risg o lifogydd.
2. Cefnogi arferion gorau o ran Iechyd a Diogelwch drwy fynd ati’n rhagweithiol i hybu ymwybyddiaeth a sicrhau bod arferion gweithio diogel yn cael eu darparu i gydymffurfio â pholisïau a safonau CNC.
3. Hyrwyddo defnydd effeithlon ac effeithiol o adnoddau er mwyn sicrhau bod gweithgareddau'n cael eu cwblhau ar amser ac o fewn y targedau cost ac ansawdd.
4. Cymryd rhan mewn gwaith ar draws timau a cheisio dylanwadu ar gwsmeriaid a sefydlu partneriaethau lleol i gyflawni amcan cyffredin CNC.
5. Cyfrannu at ddatblygu a chyflwyno'r gwasanaeth rhybuddio am lifogydd fel bod y gyfarwyddiaeth, ei phartneriaid a'r cyhoedd yn barod i ymateb i ddigwyddiadau llifogydd.
6. Rhoi mewnbwn i gynlluniau a gweithdrefnau digwyddiadau gyda phartneriaid allanol a phrofi trwy ymarfer er mwyn sicrhau bod y gyfarwyddiaeth yn barod ar gyfer digwyddiadau llifogydd.
7. Cydlynu a gweinyddu gweithdrefnau mewnol i sicrhau bod y gyfarwyddiaeth yn gallu ymateb yn effeithiol yn ystod digwyddiad llifogydd.
8. Cefnogi’r gwaith o gyflawni cyfrifoldebau o dan y Ddeddf Argyfyngau Sifil gan weithio gyda phartneriaid fel rhan o'r Fforwm Cydnerthedd Lleol.
9. Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
10. Ymrwymiad i Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
11. Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
12. Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio .

13. Gradd mewn pwnc gwyddonol perthnasol (e.e. daearyddiaeth ffisegol, gwyddor yr amgylchedd neu beirianneg sifil). (Dymunol)
14. Aelod graddedig o gorff proffesiynol priodol (ee CIWEM, ICE neu IRM) ac yn gweithio tuag at ddod yn aelod siartredig yn y dyfodol agos.
15. Profiad o Reoli Digwyddiadau Llifogydd Gweithredol dros nifer o flynyddoedd.
16. Profiad cydnabyddedig o ysgrifennu adroddiadau technegol.
17. Llythrennedd cyfrifiadurol.
18. Profiad o hyfforddi/mentora pobl a datblygu aelodau staff “iau”.
19. Rhaid bod gennych drwydded yrru lawn ar gyfer y DU.

Gofynion y Gymraeg

20. Hanfodol: (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

21. cynllun sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
22. 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
23. absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
24. ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
25. manteision a chymorth o ran iechyd a lles
26. awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd. Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon

Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save
See more jobs
Similar jobs
jobs Haverfordwest
jobs Pembrokeshire
jobs Wales
Home > Jobs > Cynghorydd Rhybuddio a Hysbysu

About Jobijoba

  • Career Advice
  • Company Reviews

Search for jobs

  • Jobs by Job Title
  • Jobs by Industry
  • Jobs by Company
  • Jobs by Location
  • Jobs by Keywords

Contact / Partnership

  • Contact
  • Publish your job offers on Jobijoba

Legal notice - Terms of Service - Privacy Policy - Manage my cookies - Accessibility: Not compliant

© 2025 Jobijoba - All Rights Reserved

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save