Summary
Crynodeb
Ydych chi’n unigolyn brwdfrydig sydd â phrofiad o weithio mewn cymunedau Cymreig? A hoffech chi chwarae rhan ganolog mewn datblygu dyfodol cyffrous i Dŷ Mawr? Os felly, hoffem glywed gennych.
Helpwch ni i roi Tŷ Mawr Wybrnant ac etifeddiaeth cyfieithiad yr Esgob William Morgan o’r Beibl ar fap treftadaeth ddiwylliannol Cymru. Rydym yn chwilio am unigolyn awyddus i gyd-greu a chyflwyno rhaglen ddifyr ochr yn ochr â phartneriaid, er mwyn helpu i rannu hanesion rhyfeddol Tŷ Mawr.
Mae’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol yn Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl hon.
Contract: cyfnod penodol tair blynedd tan 30 Medi 2027
Summary
Are you an enthusiastic person who has experience of working in Welsh communities? Would you like to play a pivotal role in developing an exciting future for Tŷ Mawr? If so, we’d love to hear from you.
Help us put Tŷ Mawr Wybrnant and the legacy of Bishop William Morgan’s translation of the bible on the cultural heritage map of Wales. We’re looking for a motivated person to co-create and deliver an engaging programme alongside partners, to help share Ty Mawr’s fascinating stories.
The ability to communicate effectively in Welsh is essential for this role.
Contract: this is a fixed term contract for 3 years until 30th September 2027.
What it's like to work here
Sut brofiad yw gweithio yma
Mae Tŷ Mawr Wybrnant yn ffermdy syml o’r 16eg ganrif a chanddo arwyddocâd diwylliannol enfawr. Yn swatio yn nyffryn gwledig Wybrnant, ger Penmachno, mae’n enwog am mai dyma’r lle y ganwyd yr Esgob William Morgan a gyfieithodd y Beibl i’r Gymraeg ym 1588. Arweiniodd hyn at iaith safonol a gyfrannodd at sicrhau bod y Gymraeg yn parhau i gael ei siarad yn eang hyd heddiw. Mae’r casgliad wedi tyfu i gynnwys dros 300 o Feiblau mewn dros 100 o ieithoedd, sy’n adlewyrchu sut y mae’r stori hon yn berthnasol i ddiwylliannau o bob cwr o’r byd.
A ninnau wedi sicrhau cyllid yn ddiweddar i drawsnewid sut yr awn ati i rannu ein casgliad unigryw o Feiblau yn Nhŷ Mawr Wybrnant, byddwch yn ymuno â’n tîm ar adeg hynod gyffrous. Bydd cyfleoedd i ddatblygu syniadau a gweithio gyda’r gymuned leol, ysgolion, ymchwilwyr, gwirfoddolwyr, a phartneriaid.
Byddwch yn Tŷ Mawr yn rheolaidd a gallwch hefyd weithio o'n swyddfa yn Dinas ger Betws y Coed neu Craflwyn, ger Beddgelert. Bydd y gwaith yn canolbwyntio ar Dŷ Mawr ond bydd hefyd yn cynnwys cefnogi portffolio cefn gwlad ehangach Eryri. Mae'r rôl yn cael ei hysbysebu fel 37.5 awr yr wythnos, ond rydym yn agored i ystyried trefniant rhan-amser (o leiaf 22.5 awr yr wythnos). Gellir trafod patrymau gwaith ond bydd angen gweithio ar benwythnosau a gŵyl y banc yn achlysurol.
What its like to work here
Tŷ Mawr Wybrnant is a modest 16th century farmhouse with huge cultural significance. Nestled in the rural Wybrnant valley, near Penmachno, its famous for being the birthplace of Bishop William Morgan, who translated the Bible into Welsh in 1588. This gave rise to a standardised language which was instrumental in ensuring Welsh is still widely spoken today. The collection has grown to include over 300 Bibles in over 100 languages, reflecting how this story resonates with cultures from every corner of the world.
You’ll be joining our team at a very exciting time, having recently secured funding to transform how we share our unique collection of Bibles at Ty Mawr Wybrnant. There will be opportunities to develop ideas and work with the local community, schools, researchers, volunteers, and partners.
You’ll be at Tŷ Mawr regularly and can also work from our office base at Dinas near Betws y Coed or Craflwyn, near Beddgelert.
The work will focus on Tŷ Mawr but will also involve supporting wider countryside portfolio of Eryri (Snowdonia).
The role is being advertised as 37.5 hours a week, but we are open to considering a part time arrangement (minimum 22.5 hours per week). Working patterns can be negotiated but will require occasional weekend and bank holiday working.
What you'll be doing
Eich dyletswyddau
Byddwch yn gyfrifol am drefnu a chyflwyno rhaglen ddifyr a chreadigol o ddigwyddiadau a gweithgareddau ar gyfer ein hymwelwyr. Trefnu diwrnodau agored thematig misol, yn cynnwys perfformiadau ar y lawnt i deuluoedd a’n darlith flynyddol.
Bydd eich cwmpas yn ymestyn drwy Ddyffryn Conwy, gan weithio’n rheolaidd â chymunedau mewn lleoliadau megis Penmachno, Pentrefoelas, Llanrwst a Chonwy. Byddwch yn gweithio gyda hwyluswyr ac ysgolion lleol i gyd-gynhyrchu rhaglen addysgol flynyddol, gan gynnig cyfleoedd i bobl ifanc gyfrannu at y profiad ymwelwyr a datblygu ymdeimlad o berchnogaeth dros y stori.
Byddwch yn rheoli tîm bychan o wirfoddolwyr, gan helpu i feithrin a chynnwys y tîm wrth weithio i baratoi’r rhaglen.
Bydd cyfleoedd hefyd i ddatblygu syniadau ynghylch rhannu stori a chasgliad Tŷ Mawr Wybrnant y tu hwnt i’r ffermdy, yn arbennig pan fyddwn ar gau dros y gaeaf.
What you’ll be doing
You’ll be responsible for organising and delivering an engaging and creative programme of events and activities for our visitors. From organising monthly themed open days, from a gig on the lawn for families to our annual lecture.
Your reach will extend throughout the Conwy valley, regularly working with communities in locations such as Penmachno, Pentrefoelas, Llanrwst and Conwy. You’ll work with local schools and facilitators to co-produce an annual educational programme, providing opportunities for young people to feed into the visitor experience and develop a sense of ownership over the story.
You’ll manage a small team of volunteers, helping nurture and involve the team in the delivery of the programming.
There will also be opportunities to develop ideas about sharing Tŷ Mawr Wybrnant’s story and collection beyond the farmhouse, particularly when we are closed for winter.
Who we're looking for
Am bwy rydym yn chwilio
Unigolyn egnïol a hyblyg i ddatblygu amrywiaeth o bartneriaethau a phrofiadau, ar y safle ac oddi arno, a fydd yn arwain at ddyfodol cyffrous a disglair i Dŷ Mawr.
Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych os ydych yn meddu ar y canlynol:
1. Sgiliau cyfathrebu rhagorol a’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol yn Gymraeg a Saesneg.
2. Profiad o weithio o fewn cymunedau Cymreig, a sgiliau pobl amlwg, sy’n galluogi perthnasoedd gweithio da yn fewnol ac yn allanol. .
3. Diddordeb yn hanes Cymru, ei hiaith a’i llenyddiaeth, yn cynnwys arwyddocâd Tŷ Mawr Wybrnant.
4. Profiad o gyfathrebu syniadau creadigol yn effeithiol i ystod o randdeiliaid, gyda’r gallu i addasu cynlluniau i anghenion partneriaid, aelodau tîm a chynulleidfaoedd.
5. Profiad o feithrin, cynnal, a datblygu cysylltiadau partneriaeth er mwyn cynnig cyfleoedd ymgysylltu i ymwelwyr, gwirfoddolwyr neu gyfranogwyr cymunedol.
6. Dealltwriaeth o’r hyn sy’n creu profiad ymwelwyr da.
7. Profiad o gyflawni rhaglenni ymwelwyr a/neu weithio â phartneriaid cymunedol neu fasnachol i gyflwyno digwyddiadau a gweithgareddau, yn ddelfrydol ar gyfer a chyda chynulleidfaoedd yn y sector treftadaeth.
8. Diddordeb mewn cadwraeth adeiladau neu gasgliadau.
Who we are looking for
An energetic and flexible individual to develop a variety of partnerships and experiences, both on site and off site, that lead to a bright and exciting future for Tŷ Mawr.
We would love to hear from you if you have the following:
9. Excellent communication skills, ability to communicate effectively in Welsh and English
10. Experience of working within Welsh communities & strong people skills, enabling good working relationships internally and externally
11. An interest in the history of Wales, it's language and literature, including the significance of Tŷ Mawr Wybrnant
12. Experience of communicating creative ideas effectively to a range of stakeholders with the ability to adapt plans to the needs of partners, team member and audiences
13. Experience of building, maintaining and developing partnership relationships to offer engagement opportunities to visitors, volunteers or community participants
14. An understanding of what makes a good visitor experience
15. Experience in delivering visitor programmes and/or working with community or commercial partners to deliver events and activities, ideally for and with audiences in the heritage sector
16. An interest in the conservation of buildings or collections
The package
The National Trust has the motto ‘For everyone, for ever’ at its heart. We’re working hard to create an inclusive culture, where everyone feels they belong. It’s important that our people reflect and represent the diversity of the communities and audiences we serve. We welcome and value difference, so when we say we’re for everyone, we want everyone to be welcome in our teams too.
17. Substantial pension scheme of up to 10% basic salary
18. Free entry to National Trust properties for you, a guest and your children (under 18)
19. Tax free childcare scheme
20. Rental deposit loan scheme
21. Season ticket loan
22. Perks at work discounts i.e. gym memberships, shopping discount codes, cinema discounts
23. Holiday allowance up to 32 days relating to length of service, plus holiday purchase scheme, subject to meeting minimum criteria.
24. Flexible working whenever possible
25. Employee assistance programme
26. Free parking at most locations
27. Independent financial advice
Yr arwyddair sydd wrth wraidd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yw 'I bawb, am byth'. Rydym yn gweithio'n galed i greu diwylliant cynhwysol, lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn iddo. Mae'n bwysig bod ein pobl yn adlewyrchu ac yn cynrychioli amrywiaeth y cymunedau a'r cynulleidfaoedd yr ydym yn eu gwasanaethu. Rydym yn croesawu ac yn gwerthfawrogi gwahaniaeth, felly pan ddywedwn ein bod ar gyfer pawb, rydym eisiau i bawb deimlo'n gartrefol yn ein timau hefyd.
28. Cynllun pensiwn sylweddol hyd at 10% o gyflog sylfaenol
29. Mynediad am ddim i eiddo'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, i chi, gwestai a'ch plant (dan 18 oed)
30. Cynllun gofal plant di-dreth
31. Cynllun benthyciad blaendal rhent
32. Benthyciad tocyn tymor
33. Gostyngiadau buddion y gweithle, h.y. aelodaeth gampfa, codau gostyngiad siopa, gostyngiadau ar gyfer y sinema
34. Lwfans gwyliau hyd at 32 diwrnod mewn perthynas â hyd y gwasanaeth, yn ogystal â chynllun prynu gwyliau, yn amodol ar fodloni meini prawf gofynnol.
35. Oriau gweithio hyblyg lle bynnag y bo'n bosibl
36. Rhaglen cynorthwyo cyflogai
37. Parcio am ddim yn y rhan fwyaf o leoliadau
38. Cyngor ariannol annibynnol