Ymddiriedolwr Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro
Elusen annibynnol yw’r Ymddiriedolaeth sy'n codi arian i helpu i ddiogelu a gwella rhinweddau arbennig Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. O warchod rhywogaethau a chynefinoedd prin i gefnogi dysgu yn yr awyr agored, materion mynediad, a phrosiectau treftadaeth, rydym yn gweithio i sicrhau y gofelir am y dirwedd unigryw hon i’w mwynhau heddiw ac i genedlaethau'r dyfodol.
Gwahoddir ceisiadau am rôl Ymddiriedolwr i helpu i lywio’r modd y mae’r elusen yn datblygu, a chefnogi rhaglen uchelgeisiol ac effeithiol o godi arian ar gyfer gwarchod byd natur, treftadaeth a lles cymunedol ym mhob rhan o Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro a'r ardal gyfagos.
Bydd ymddiriedolwyr yn chwarae rhan allweddol o ran llywio cyfeiriad strategol yr elusen, gan ddatblygu a mabwysiadu polisïau priodol, a helpu i sicrhau bod yr Ymddiriedolaeth yn diwallu ei rhwymedigaethau cyfreithiol ac yn cyflawni arfer gorau ym mhob peth a wna.
Drwy gefnogi Cyfarwyddwr yr Elusen a'r Swyddog Ariannu, byddwch yn rhoi cyfarwyddyd, mewnwelediad ac arweiniad i helpu'r Ymddiriedolaeth gynyddu ei chyrhaeddiad a'i heffaith.
Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan ymgeiswyr sydd â phrofiad mewn codi arian, materion dyngarol, neu gynhyrchu incwm, all ein helpu i adeiladu cymorth hirdymor i'n gwaith. P'un a ydych yn dod â gwybodaeth am ffyrdd o godi arian i ymddiriedolaeth a sefydliadau, cynyddu nifer y rhoddwyr ar raddfa fawr, partneriaethau corfforaethol, neu ymgyrchoedd ymgysylltu â'r cyhoedd, gallai eich mewnbwn wneud gwahaniaeth gwirioneddol.
Dylech fod yn angerddol am fyd natur a diddordeb yng ngwaith Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Efallai y byddwch yn dod â phrofiad o weithio ar fwrdd, pwyllgor, neu o fewn grwp gwneud penderfyniadau mewn corff gwirfoddol neu fusnes. Byddai gwybodaeth am ofynion cyfreithiol elusennau a/neu wybodaeth leol am Sir Benfro yn werthfawr.
I gael mwy o wybodaeth am y rôl, cysyllter â katiem@pembrokeshirecoast.org.uk
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac yn croesawu ceisiadau gan unigolion waeth beth fo'u hoedran, anabledd, rhyw, ailbennu rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, a statws priodasol neu bartneriaeth sifil. Rydym yn addo gwella amrywiaeth ein Bwrdd ac felly'n gwarantu cyfweliad i ymgeiswyr anabl sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac yn gwneud cais drwy ein Cynllun Cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd.
#J-18808-Ljbffr