Cymorth Ymholiadau’r Cyhoedd - Aberhonddu
Heddlu Heddlu Dyfed Powys Math o rôl Staff Heddlu Maes Busnes / Adran Gweithrediadau Lleoliad Aberhonddu Hyblyg/Sefydlog/Sefydlog a Gweithredol Sefydlog a Gweithredol Gradd C Cyflog £24,675 - £26,106 Rhan/Llawn Amser Llawn Amser Oriau'r Wythnos 37 Math o Gytundeb Parhaol Lefel o allu'n y Gymraeg sy'n angenrheidiol? 1 Dyddiad Cyfweliad 4 Rhagfyr 2025 Dyddiad cau 17/11/25 23:55 Disgrifiad Hysbysiad Swydd Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â ni fel Cymorth Ymholiadau’r Cyhoedd yn Brecon.
Beth fyddwch chi’n ei wneud?
Ymdrin ag ymholiadau gan aelodau o’r cyhoedd a swyddogion/staff yr heddlu, wyneb yn wyneb.
Ateb a gweithredu galwadau difrys (101) mewn modd amserol ar yr adegau hynny pan mae galw mawr.
Rhoi cyngor ac arweiniad i gwsmeriaid, gan gyfeirio at asiantaethau eraill ar gyfer materion nad ydynt yn ymwneud â’r heddlu lle bo’n berthnasol Cyfeiriwch hefyd at y canllawiau ar gyfer ymgeiswyr a atodir isod, sy’n rhoi mwy o fanylion ynglŷn â sut i gwblhau’ch cais. https://www.dyfed-powys.police.uk/SysSiteAssets/media/downloads/dyfed-powys/careers/guidance-Documents/police-staff-attainments-welsh-.pdf Beth allwch chi ddisgwyl?
Bydd gan bob dechreuwr newydd gyfaill/mentor i’ch cefnogi pan fyddwch chi’n ymuno 24 diwrnod o wyliau blynyddol (sy’n codi i 29 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth) ynghyd ag 8 gŵyl gyhoeddus 24 diwrnod ychwanegol o oriau hyblyg (gan ddibynnu ar y swydd) Mynediad at gampfeydd a dosbarthiadau ffitrwydd yn y gweithle Gweithio hybrid/ystwyth (gan ddibynnu ar y swydd) Gostyngiadau gan sawl adwerthwr drwy’r Cynllun Golau Glas Cynllun Beicio i’r Gwaith Cefnogaeth gan ein Canolfan Iechyd a Lles, gan gynnwys Swyddogion Lles, Cwnsela a Ffisiotherapi Cynllun pensiwn Rhwydweithiau Cymorth Staff Cyfleoedd gweithio hyblyg Hawliau cyfnod mamolaeth/tadolaeth/mabwysiadu hael Darpariaethau tâl salwch Mae pob ymgeisydd yn ddarostyngedig i wiriadau meddygol a fetio.
Amrywiaeth a’r Gymraeg Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gyflogwr cynhwysol sy’n anelu i gael gweithlu sy’n cynrychioli’r cymunedau mae’n eu plismona a’u gwasanaethu.
Credwn y byddwn yn elwa o’r amrywiaeth o feddyliau, ymagweddau a sgiliau y gall amrywiaeth gyflwyno, sy’n medru’n helpu i gyflwyno gwell gwasanaeth plismona.
Yr ydym yn parhau i weithio tuag at greu diwylliant diogel, agored sy’n foesegol ac yn cynnwys pawb.
Mae gennym amrediad o grwpiau a rhwydweithiau staff i roi cyngor a chymorth penodol, a’n nod yw recriwtio pobl dalentog ag amrywiaeth eang o sgiliau a phrofiadau.
Yr ydym yn croesawu ceisiadau o bob cefndir a chymuned, ni waeth am oed, rhyw, ethnigrwydd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd neu fynegiant rhywedd, anabledd, statws cymdeithasol neu gredoau crefyddol.
Cliciwch fan hyn i weld pa un ai a ydych chi’n gymwys ar gyfer Gweithredu Cadarnhaol ai peidio.
Yr ydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad dwyieithog ac ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Pwynt gwybodaeth: Os oes angen rhagor o wybodaeth am y swydd hon arnoch, peidiwch ag oedi i gysylltu: recruitmentdyfed-powys.police.uk Neu ymunwch â’n digwyddiad recriwtio galw heibio wythnosol ar ddydd Mercher o 11y.b. - 11:30y.b. fan hyn.
#J-18808-Ljbffr