Jobs
My ads
My job alerts
Sign in
Find a job Career Tips Companies
Find

Administrative officer

London
Cardiff University / Prifysgol Caerdydd
Administrative officer
Posted: 12 August
Offer description

Join to apply for the Administrative Officer role at Cardiff University / Prifysgol Caerdydd

3 days ago Be among the first 25 applicants

Join to apply for the Administrative Officer role at Cardiff University / Prifysgol Caerdydd

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.


Swyddog Gweinyddol, Canolfan Ymchwil Canser Cymru

Isadran Canser a Geneteg

Yr Ysgol Meddygaeth

Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd

Cenhadaeth Canolfan Ymchwil Canser Cymru (WCRC) yw arwain newid sylweddol mewn ymchwil canser yng Nghymru, drwy greu ffocws clir ac enw da am ragoriaeth mewn meysydd o gryfder thematig; denu buddsoddiad aml-sector i ehangu gweithgarwch ymchwil; a gwneud y mwyaf o gyfleoedd ymchwil i gleifion canser Cymru. Rydym yn gweithio tuag at y nod hwn drwy hwyluso gwaith cydweithredol ac integredig; buddsoddi mewn swyddi ymchwil ar hyd y llwybr gyrfa; a chyflawni gwaith prosiect sy'n galluogi gweithgaredd ymchwil. Mae’n gyfnod cyffrous yn WCRC gan ein bod yn ddiweddar wedi sicrhau cyllid am 5 mlynedd ychwanegol.

Rydym yn chwilio am Swyddog Gweinyddol brwdfrydig a phrofiadol, i ddarparu cefnogaeth gynhwysfawr a phroffesiynol i WCRC. Dylai ymgeiswyr fod yn hyderus mewn aml-dasgau, blaenoriaethu llwyth gwaith a gwasanaethu cyfarfodydd tra'n meddu ar sgiliau trefnu cryf.

Lleolir y swydd hon ar gampws Parc y Mynydd Bychan.

Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig llawer o fanteision rhagorol, gan gynnwys 40 diwrnod o wyliau blynyddol (yn cynnwys gwyliau banc), cynllun pensiwn lleol, cynllun beicio i'r gwaith a mentrau teithio eraill, cynyddrannau blynyddol o fewn y raddfa gyflog, a mwy. Dyma le cyffrous a bywiog i weithio ynddo, lle byddwch yn wynebu llawer o heriau gwahanol. Mae hefyd yn falch o gefnogi’r Cyflog Byw.

Mae'r mwyafrif o swyddi ym Mhrifysgol Caerdydd yn gweithredu o dan drefniadau "gweithio cyfunol" ar hyn o bryd, gyda hyblygrwydd i staff weithio yn rhannol o’u cartref ac yn rhannol o gampws y Brifysgol yn dibynnu ar ofynion busnes penodol. Gall trafodaethau ynghylch y trefniadau hyn gael eu cynnal ar ôl i'r ymgeisydd llwyddiannus gael ei benodi.

Ar gyfer ymholiadau anffurfiol, cysylltwch â Dr Ceri Morris, Rheolwr Gweithrediadau WCRC – MorrisC10@caerdydd.ac.uk.

Swydd ran-amser yw hon (17½ awr yr wythnos), cyfnod penodol tan 31 Mawrth 2030, ac mae ar gael ar unwaith. Nid yw'r patrwm gweithio rhan-amser wedi'i ddiffinio ymlaen llaw ond byddai disgwyl iddo rychwantu o leiaf 3 diwrnod, gan gynnwys dydd Mercher a dydd Iau.

Cyflog: £27,644 - £30,805 y flwyddyn, pro rata (Gradd 4). Fel arfer gwneir penodiadau i rolau ym Mhrifysgol Caerdydd ar waelod y raddfa oni bai fod amgylchiadau eithriadol.

Dyddiad hysbysebu: Dydd Mawrth, 5 Awst 2025

Dyddiad cau: Dydd Sul, 31 Awst 2025

Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a sicrhau amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gellir gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu gred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Er mwyn helpu ein cyflogeion i sicrhau cydbwysedd rhwng.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

PWRPAS Y SWYDD

Darparu cymorth gweinyddol cynhwysfawr, proffesiynol i Ganolfan Ymchwil Canser Cymru (WCRC) o fewn yr Is-adran Canser a Geneteg. Bydd hyn yn cynnwys gweithio’n agos gyda staff y Ganolfan a phartneriaid allweddol ledled Cymru a’r DU, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i: adrannau eraill o fewn Prifysgol Caerdydd, ymchwilwyr academaidd, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, grŵp cynnwys cleifion a’r cyhoedd, Sefydliadau Addysg Uwch (SAU), y GIG, elusennau canser a sefydliadau ymchwil eraill.

Fel y brifysgol fwyaf yng Nghymru – a chyflogwr mawr, gyda mwy na 7,000 o staff – rydym yn brifysgol uchelgeisiol ac arloesol wedi’i lleoli mewn prifddinas hardd a ffyniannus. Gallwn gynnig y cyfle i chi weithio mewn sefydliad bywiog, gyda buddion a chyfleoedd gwych ar gyfer dilyniant.

DYLETSWYDDAU A CHYFRIFOLDEBAU

Dyletswyddau Allweddol


* Ymgymryd ag amrywiaeth o ddyletswyddau gweinyddol i gefnogi Uwch Dîm Arwain a Thîm Hwb y WCRC, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i gymorth gweinyddol a gweithgarwch dilynol ar gyfer cyfarfodydd lefel uchel; cymorth gweinyddol ar gyfer llywodraethu rheolaidd a chyfarfodydd gweithgorau; gofyn am a choladu gwybodaeth ar gyfer adrodd arferol; gweinyddiaeth ariannol megis anfonebu; trefnu trefniadau teithio; a threfnu offer a chyflenwadau swyddfa.
* Darparu cyngor ac arweiniad manwl i sefydlu prosesau a gweithdrefnau gweinyddol ar gyfer y WCRC i gwsmeriaid mewnol ac allanol (staff, myfyrwyr neu aelodau'r cyhoedd), gan sicrhau bod y prosesau yn unol â pholisïau'r Brifysgol lle bo'n berthnasol.
* Defnyddio crebwyll, creadigrwydd a chynllunio i sefydlu, rheoli a monitro’r cymorth gweinyddol mwyaf priodol, a chyfrannu at ddatrys materion mwy cymhleth.
* Gwneud argymhellion i Gyfarwyddwr a Rheolwr Gweithrediadau WCRC ar gyfer datblygiadau a allai wella prosesau a gweithdrefnau gweinyddol WCRC.
* Sefydlu perthnasoedd gwaith cynhyrchiol ag unigolion allweddol (cydweithwyr yn y Brifysgol a chysylltiadau allanol) i helpu i wella lefel y gwasanaeth y mae’r tîm yn ei ddarparu i’w gwsmeriaid.
* O fewn Tîm Hyb WCRC, darparu’r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer y sefydliad, gan sicrhau ymagwedd broffesiynol a chyfeirio ymlaen neu ddatrys ymholiadau priodol.
* Rheoli dyddiadur Cyfarwyddwr WCRC, yn ôl yr angen.
* Datblygu cysylltiadau cyfathrebu priodol â staff WCRC a phartneriaid ymchwil allweddol, yn ogystal â Cholegau/Ysgolion/Cyfarwyddiaethau’r Brifysgol.
* Rheoli'r trefniadau gweinyddol a threfniadol, gan gynnwys cymryd cofnodion, ar gyfer gwahanol gyfarfodydd, cynadleddau a digwyddiadau hyfforddi. Mae hyn yn cynnwys cyfarfodydd o weithgorau a grwpiau llywodraethu allweddol WCRC, gan gynnwys yr Uwch Grŵp Arwain a grŵp cynnwys cleifion a’r cyhoedd sydd â chymeradwyaeth uchel WCRC.
* Cyflawni amrywiaeth o ddyletswyddau gweinyddol i gefnogi'r tîm a'r adran i gyflawni ei amcanion.
* Casglu a dadansoddi data fel y gellir gwneud penderfyniadau gwybodus, sefydlu tueddiadau a phatrymau sylfaenol yn y data a darparu adroddiadau ac argymhellion ar gyfer rheolwyr.
* Cyfarwyddo ac arwain cydweithwyr ar draws y Brifysgol ac o fewn WCRC ar swyddogaethau gweinyddol yn ôl yr angen.
* Disgrifiad swydd yn parhau isod .. **

** Disgrifiad swydd yn parhau .. **

Dyletswyddau Cyffredinol

* Sicrhau bod dealltwriaeth o bwysigrwydd cyfrinachedd yn cael ei gymhwyso wrth gyflawni pob dyletswydd.
* Cadw at holl bolisïau'r Brifysgol a dilyn datblygiad personol a phroffesiynol priodol.
* Trawsgyflenwi â staff cydgysylltu eraill WCRC, fel y bo'n briodol.
* Cyflawni dyletswyddau eraill nad ydynt wedi'u cynnwys uchod, ond a fydd yn gyson â'r rôl.
* Cynnal Gwerthoedd ac Ymddygiadau Gwasanaethau Proffesiynol neu gyfwerth lleol.

GWYBODAETH YCHWANEGOL

Cefnogir y swydd hon trwy gyllid WCRC. Ariennir WCRC gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, sef corff Llywodraeth Cymru sy’n datblygu, mewn ymgynghoriad â phartneriaid, strategaeth a pholisi ar gyfer ymchwil yn y GIG a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Sut byddwn ni’n eich cefnogi i gyflawni’r rôl hon –

Mae’n Rhaid Bod Yn Gymwys o Ran Meini Prawf Penodol Cyn Gallu Dechrau’r Swydd Hon (gweler Yr Adran ‘Meini Prawf Hanfodol’), Ond Mae Modd Datblygu’r Elfennau Eraill Naill Ai Drwy Gael Hyfforddiant Neu Drwy Fagu Profiad Cyffredinol Yn y Swydd. Rydym Am Eich Cefnogi A’ch Datblygu Unwaith y Byddwch Wedi Dechrau Yn y Rôl Gan Ddefnyddio Cyfuniad O’r Canlynol i Sicrhau Eich Bod Yn Gallu Rhoi O’ch Gorau

* Cyfarfodydd un-i-un rheolaidd gyda'ch rheolwr

2. Tîm profiadol a chefnogol o'ch cwmpas

* Eich cefnogi o ran hyfforddiant a datblygiad perthnasol i'r swydd y gallai fod eu hangen arnoch
* Cynllun mentora

Manyleb Unigolyn

Rydym am gyflogi pobl ag amrywiaeth eang o brofiadau. Rydym yn croesawu ceisiadau o bob rhan o’r gymuned waeth beth fo’u rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth draws, statws perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu, neu oedran. Rydym yn chwilio’n arbennig am geisiadau gan ymgeiswyr sy’n dod o gefndiroedd a dangynrychiolir yn y Brifysgol, gan gynnwys pobl o gymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig.

Rydym yn chwilio am chwaraewr tîm a fydd yn gweithio gyda chydweithwyr i ddarparu gwasanaeth gwych i staff a myfyrwyr. Nid oes angen i chi fod wedi gweithio i Brifysgol o'r blaen; mae hwn yn gyfle i ddangos eich potensial a dechrau neu barhau eich gyrfa ym Mhrifysgol Caerdydd.

Gall y rôl hon fod yn gyfle i chi adeiladu ar eich profiad o weithio mewn rôl weinyddol flaenorol neu amgylchedd, gan ddangos eich sgiliau trosglwyddadwy a dawn i fod yn llwyddiannus yn y rôl. Dylech fod yn frwdfrydig ynghylch datblygu eich gwybodaeth a'ch sgiliau i ddod yn aelod gwerthfawr o'r tîm.

Bydd eich cais yn cael ei asesu yn erbyn y meini prawf hanfodol a dymunol canlynol ar gyfer y rôl. Copïwch a gludwch yr adran hon i mewn i ddogfen newydd a rhowch enghreifftiau clir o sut y gallwch ddangos tystiolaeth o fodloni pob maen prawf trwy ysgrifennu o dan bob un. Gallwch dynnu ar elfennau o unrhyw agwedd ar eich bywyd (e.e. gwaith, cartref, addysg/cymwysterau neu fywyd cymunedol) cyn belled â’ch bod yn canolbwyntio ar eu perthnasedd i’r rôl.

Cadwch eich datganiad ategol mewn dogfen ar wahân gyda'r teitl [EICHENW - 20297BR - SWYDDOG GWEINYDDOL] a'i atodi i'ch cais yn y system recriwtio.

Sylwch mai dyma hefyd y meini prawf y bydd ymgeiswyr ar y rhestr fer yn cael eu hasesu yn eu herbyn mewn cyfweliad a/neu drwy ddulliau eraill (e.e. prawf sgiliau).

Meini Prawf Hanfodol

* Tystiolaeth o safon dda mewn rhifedd a llythrennedd TG.
* Profiad o weithio mewn rôl neu amgylchedd gweinyddol a'r gallu i sefydlu systemau a gweithdrefnau swyddfa safonol, gan wneud gwelliannau i'r rhain fel y bo'n briodol.
* Gwybodaeth arbenigol am sefydliadau sy’n datblygu ac yn cefnogi’n weinyddol gyda rhanddeiliaid lluosog (fel y GIG, SAUau, gwyddonwyr, ymchwilwyr canser, clinigwyr, cynrychiolwyr cleifion a’r cyhoedd, elusennau canser a sefydliadau ymchwil).
* Y gallu i gyfathrebu gwybodaeth arbenigol a chymhleth yn ysgrifenedig yn glir ac yn gryno yn effeithiol ac yn broffesiynol i ystod o gwsmeriaid gyda lefelau amrywiol o ddealltwriaeth.
* Y gallu i gynghori a dylanwadu ar randdeiliaid allweddol yn eich maes gwaith.
* Y gallu i archwilio anghenion cwsmeriaid ac addasu'r gwasanaeth a ddarperir gennych yn unol â hynny i sicrhau bod gwasanaeth o safon yn cael ei ddarparu.
* Tystiolaeth o allu i ddatrys problemau gan ddefnyddio menter a chreadigedd; nodi a chynnig atebion ymarferol a datrys problemau; dewis dull priodol, lle mae amrywiaeth o opsiynau posibl ar gael.
* Y gallu i weithio heb oruchwyliaeth i derfynau amser, gan gynllunio a gosod blaenoriaethau ar gyfer eich gwaith eich hun.

Meini Prawf Dymunol

* Gradd neu gymhwyster cyfatebol neu brofiad cysylltiedig â gwaith cyfatebol.
* Profiad o ddarparu cymorth gweinyddol ar gyfer digwyddiadau mawr megis cynadleddau.
* Gwybodaeth am systemau ariannol electronig a chronfeydd data.
* Profiad o weithio mewn rôl neu amgylchedd tebyg, e.e. Addysg Uwch.
* Y gallu i siarad/deall Cymraeg neu barodrwydd i ddysgu.


Seniority level

* Seniority level

Mid-Senior level


Employment type

* Employment type

Full-time


Job function

* Job function

Administrative
* Industries

Higher Education

Referrals increase your chances of interviewing at Cardiff University / Prifysgol Caerdydd by 2x


Sign in to set job alerts for “Administrative Officer” roles.

London, England, United Kingdom 5 days ago

London, England, United Kingdom 3 weeks ago

London, England, United Kingdom 2 weeks ago

London, England, United Kingdom 1 week ago

London, England, United Kingdom 1 month ago

London, England, United Kingdom 5 days ago

London, England, United Kingdom 1 day ago

Harrow, England, United Kingdom 2 days ago

London, England, United Kingdom 4 days ago


Executive Assistant to Chief Commercial Officer - 12-month Maternity Cover

London, England, United Kingdom 1 week ago

London, England, United Kingdom 2 months ago

Greater London, England, United Kingdom 2 weeks ago

London, England, United Kingdom 2 weeks ago

City Of London, England, United Kingdom £30.00-£34.00 1 week ago

London, England, United Kingdom 2 days ago

City Of London, England, United Kingdom £35,000.00-£36,000.00 2 weeks ago

City Of London, England, United Kingdom £35,000.00-£45,000.00 1 month ago

London, England, United Kingdom 5 days ago

London, England, United Kingdom 5 days ago


Executive Assistant to Chief Executive Officer


Assistant Company Secretary - London or Harrogate

London, England, United Kingdom 5 days ago

London, England, United Kingdom 2 hours ago

London, England, United Kingdom 3 weeks ago


London Office - Company Secretary Assistant (m/f/d)

London, England, United Kingdom 4 hours ago

Wimbledon, England, United Kingdom 4 days ago

London, England, United Kingdom 6 days ago


Executive Office, Office of Government and Regulatory Affairs, London, Administrative Assistant

London, England, United Kingdom 2 weeks ago

London, England, United Kingdom 4 days ago

London, England, United Kingdom 1 week ago

We’re unlocking community knowledge in a new way. Experts add insights directly into each article, started with the help of AI.

#J-18808-Ljbffr

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save
Similar job
Administrative officer
London
Myn
Administrative officer
Similar job
Defence relationship management – head office employer engagement administrative officer
London
Confederation of Service Charities
Administrative officer
Similar job
Senior administrative officer (membership services)
London
RAIL & MARITIME TRANSPORT UNION
Administrative officer
See more jobs
Similar jobs
Administration jobs in London
jobs London
jobs Greater London
jobs England
Home > Jobs > Administration jobs > Administrative officer jobs > Administrative officer jobs in London > Administrative Officer

About Jobijoba

  • Career Advice
  • Company Reviews

Search for jobs

  • Jobs by Job Title
  • Jobs by Industry
  • Jobs by Company
  • Jobs by Location
  • Jobs by Keywords

Contact / Partnership

  • Contact
  • Publish your job offers on Jobijoba

Legal notice - Terms of Service - Privacy Policy - Manage my cookies - Accessibility: Not compliant

© 2025 Jobijoba - All Rights Reserved

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save